Mae 98.5% o ddarllenwyr golwg360 wnaeth ymateb i bôl piniwn y wefan hon yn credu ei bod hi’n syniad da newid enw’r timau pêl-droed cenedlaethol i’r enw uniaith Gymraeg ‘Cymru’, yn hytrach na defnyddio ‘Cymru’ yn Gymraeg a ‘Wales’ yn Saesneg.

Daw hyn ar ôl cadarnhad gan Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, y byddan nhw’n ystyried newid eu henw i’r enw uniaith Gymraeg ‘Cymru’ ar y llwyfan rhyngwladol ar ôl Cwpan y Byd.

‘Cymru’ – yr enw uniaith Gymraeg – sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru wrth gyfathrebu’n fewnol ac yn allanol, a hefyd gan staff ym mhencadlys y corff llywodraethu ym Mro Morgannwg.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n bwriadu siarad â rhanddeiliaid amrywiol yn y byd pêl-droed yng Nghymru ynghylch newid enw’r wlad mewn cystadlaethau rhyngwladol.

Roedd Press Association yn adrodd bod trafodaethau anffurfiol eisoes wedi’u cynnal gydag UEFA.

‘Mwy o waith i’w wneud’

“Dylai’r tîm gael ei alw’n ‘Cymru’ bob amser, dyna beth rydyn ni’n ei alw fan hyn,” meddai Noel Mooney.

“Ein barn ni ar hyn o bryd yw ein bod ni’n amlwg yn cael ein galw’n ‘Cymru’ yn ddomestig.

“Dyna beth rydyn ni’n galw’n timau cenedlaethol.

“Os edrychwch chi ar ein gwefan, sut rydyn ni’n siarad amdanom ein hunain, ‘Cymru’ ydyn ni i raddau helaeth.

“Yn rhyngwladol, rydyn ni’n teimlo bod gennym ni ychydig mwy o waith i’w wneud eto.

“Felly fel ‘Cymru’ rydym yn mynd i’r Cwpan y Byd hwn.

“Ond rwy’n meddwl y bydd 2023 yn flwyddyn pan fyddwn yn cael trafodaeth dda gyda’r holl randdeiliaid gwahanol – boed hynny’n Llywodraethau, ein byrddau ein hunain, cynghorau a chyrff gwneud penderfyniadau, staff, clwb a chwaraewyr.

“Rydym yn sefydliad democrataidd agored iawn ac nid ydym yn penderfynu’n unochrog heddiw i wneud rhywbeth felly.

“Byddwn i’n dweud mai dyma’r cyfeiriad, ond does dim penderfyniadau pendant yn ei gylch.”

Ystyried newid enw timau pêl-droed cenedlaethol i ‘Cymru’ ar ôl Cwpan y Byd Qatar

“Dylai’r tîm gael ei alw’n Gymru bob amser, dyna beth rydyn ni’n ei alw fan hyn,” meddai prif weithredwr CBDC, Noel Mooney am enw uniaith Gymraeg