Bydd tîm rygbi Seland Newydd heb y clo Brodie Retallick ar gyfer y gêm yn erbyn Cymru yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn (Tachwedd 5).

Bydd e hefyd wedi’i wahardd rhag chwarae yn y gêm ganlynol yn erbyn yr Alban ar ôl gweld cerdyn coch yn y gêm yn erbyn Japan.

Roedd e’n euog o drosedd yn y sgarmes, yn ôl panel annibynnol, sydd wedi ei wahardd am dair gêm.

Fe ddefnyddiodd ei ysgwydd ar ben Kazuki Himeno, chwaraewr rheng ôl Japan, ond doedd e ddim yn teimlo bod y drosedd yn haeddu cerdyn coch ac mae ganddo fe’r hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.

Mae disgwyl iddo fe fod ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Lloegr pe bai e’n cwblhau rhaglen hyfforddi arbennig.

Daw’r gwaharddiad yn dilyn sawl ergyd arall i’r Crysau Duon, ar ôl iddyn nhw golli eu capten Sam Cane a’r bachwr Dane Coles ar gyfer y daith oherwydd anafiadau.