Dydd Gwener, 1 Hydref
Y Seintiau Newydd 3-0 Tref Aberystwyth
Mae’r Seintiau Newydd yn dal i fod ar frig y tabl ar ôl ymestyn eu dechrau gwych i’r tymor – dydyn nhw heb golli gêm hyd yma.
Doedd hi ddim yn llawer o syndod o ystyried nad yw Aberystwyth wedi ennill oddi cartref yn erbyn y Seintiau ers tymor 1993/94!
Sgoriodd Declan McManus gic o’r smotyn wedi chwe munud i roi’r Seintiau ar ben ffordd, cyn ychwanegu ei ail cyn hanner amser.
Ychwanegodd Ryan Astles drydedd i gwblhau’r fuddugoliaeth gyfforddus.
Ryan Astles yn selio'r fuddugoliaeth i'r Seintiau Newydd!
FT: @tnsfc 3-0 Aberystwyth pic.twitter.com/aXLyKLU3M5
— Sgorio ⚽️ (@sgorio) October 1, 2021
Y Fflint 1-2 Y Bala
Curodd y Bala’r Fflint o ddwy gôl i un oddi cartref gan neidio heibio’r tîm cartref i ail yn y tabl yn y broses.
Y Fflint aeth ar y blaen gydag ymdrech Mike Wilde ac roedden nhw ar y blaen hyd at y 75ain munud pan sgoriodd Chris Venables i unioni’r sgôr.
Yna fe sgoriodd cyn chwaraewr canol cae Cymru, Dave Edwards, mewn pryd i dorri calonnau’r Fflint.
Drama hwyr! Foli Dave Edwards yn dwyn y pwyntiau i'r Bala 😯@BalaTownFC snatch a 90th minute winner at the Essity Stadium… pic.twitter.com/meoeOiUZ0B
— Sgorio ⚽️ (@sgorio) October 1, 2021
Dydd Sadwrn, 2 Hydref
Y Barri 0-3 Y Drenewydd
Cafodd y Barri gweir gan y Drenewydd gartref ddydd Sadwrn wrth i Arron Williams sgorio hatric.
Roedd y ddwy ochr yn gobeithio ymateb ôl ar ôl colli yng Nghwpan Cymru JD y penwythnos diwethaf.
Mae’r canlyniad yn golygu fod y Drenewydd yn codi i’r chweched safle, tra bod y Barri yn disgyn i seithfed.
Hat-tric i Aaron Williams wrth i'r Drenewydd ennill ar Barc Jenner!
Uchafbwyntiau: @BarryTownUnited 0-3 @NewtownAFC#JDCymruPremier pic.twitter.com/TQIGtxpRCG
— Sgorio ⚽️ (@sgorio) October 2, 2021
Hwlffordd 1-1 Cei Connah
Sicrhaodd Craig Harrison bwynt yn ei gêm gyntaf fel rheolwr Cei Connah yn dilyn ymddiswyddiad Andy Morrison yng nghanol yr wythnos.
Y tîm oddi cartref aeth ar y blaen gyda Callum Morris yn sgorio cic o’r smotyn.
Ond fe sgoriodd Ben Fawcett yn hwyr i achub pwynt i Hwlffordd, sydd un safle oddi ar waelod y tabl.
Mae’r pencampwyr, ar y llaw arall, wedi disgyn i’r wythfed safle ond mae’r rheolwr newydd yn mynnu y byddan nhw’n “brwydro’r holl ffordd”.
'As long as it’s feasible we will be challenging all the way.' – Craig Harrison
Rheolwr newydd Cei Connah, Craig Harrison ar ôl y gêm gyfartal 1-1 rhwng Hwlffordd a’r Nomadiaid.#JDCymruPremier pic.twitter.com/RupUOEXoRF
— Sgorio ⚽️ (@sgorio) October 2, 2021
Penybont 1-1 Caernarfon
Roedd hi’n gêm ddiddorol rhwng dau dîm sydd wedi bod ar rediad da yn ddiweddar wrth i Gaernarfon deithio i Penybont.
Fe allai’r ddau dîm fod wedi ennill y gêm, wrth i Penybont fethu cic o’r smotyn a chafodd Caernarfon gôl wedi’i gwrthod oherwydd bod Cai Jones yn camsefyll.
Y tîm cartref aeth ar y blaen gydag ergyd gan Nathan Wood yn yr hanner cyntaf.
Ond fe ddaeth Caernarfon yn ôl yn gryfach yn yr ail hanner, ac fe sgoriodd Cai Jones i unioni’r sgôr.
Fe allai’r ddau dîm fod wedi ennill y gêm, wrth i Penybont fethu cic o’r smotyn a chafodd Caernarfon gôl wedi’i gwrthod am gamsefyll.
Met Caerdydd 4-2 Derwyddon Cefn
Mae Derwyddon Cefn yn dal i edrych am eu pwynt cyntaf y tymor hwn, ar ôl iddyn nhw golli ei seithfed gêm yn olynol oddi cartref yn erbyn Met Caerdydd.
Roedd yno obaith i’r tîm oddi cartref wrth i gôl gan Ben Wynn ei rhoi nhw ar y blaen.
Ond roedd ymateb y myfyrwyr yn un cyflym a ffyrnig wrth i Emlyn Lewis ac Adam Roscrow sgorio i’w rhoi nhw ar y blaen.
Sgoriodd Ben Wynne ei ail i unioni’r sgôr drachefn, cyn i Lewis Rees adfer mantais Met Caerdydd yn fuan cyn hanner amser.
Sicrhaodd Harry Owen y pwyntiau i’r tîm cartref gyda pheniad ym munudau olaf y gêm.
6 gôl yng Nghampws Cyncoed! 🔥⚽
Met Caerdydd yn curo Derwyddon Cefn i godi i’r 5ed safle.
Uchafbwyntiau: @CardiffMetFC 4-2 @CefnDruids#JDCymruPremier pic.twitter.com/abyYkaniqs
— Sgorio ⚽️ (@sgorio) October 2, 2021
Y Tabl
Tabl #JDCymruPremier 🏴
Met Caerdydd yn codi i'r 5ed safle ar ol ennill Derwyddon Cefn 4-2.
Hwlffordd yn sgorio'n hwyr i achub pwynt wrth i Gei Connah ddisgyn i'r 8fed safle. pic.twitter.com/GFn9Iv3ubv
— Sgorio ⚽️ (@sgorio) October 2, 2021