Ddyddiau’n unig ar ôl i bapur newydd yn yr Iseldiroedd ddweud bod eu tîm pêl-droed cenedlaethol “yr un mor wael â Chymru”, mae rheolwr y tîm, Frank de Boer wedi ymddiswyddo.
Collodd yr Iseldiroedd yn erbyn y Weriniaeth Tsiec yn rownd yr 16 olaf ddydd Sul (Mehefin 27).
Ond mae’n debyg bod cyrraedd rownd yr wyth olaf yn un o amodau cytundeb y cyn-chwaraewr 51 oed.
“Dydy’r amcan ddim wedi cael ei gyflawni, mae hynny’n glir,” meddai wrth gyhoeddi ei ymadawiad.
Cafodd ei benodi fis Medi y llynedd yn olynydd i’w gyn-gydchwaraewr Ronald Koeman.
Enillon nhw bob gêm yn eu grŵp yn y twrnament, ond doedd eu deg dyn ddim yn gallu ymdopi yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ar ôl i’r amddiffynnwr Matthijs De Ligt weld cerdyn coch.
Dywed Frank de Boer fod cael ei benodi wedi bod yn “anrhydedd ac yn her”, ond ei fod e’n ymwybodol o’r “pwysau” fyddai arno wrth gamu i’r swydd.
Enillodd e 112 o gapiau dros ei wlad, gan chwarae yng Nghwpan y Byd ddwy waith a’r Ewros dair gwaith.
Cafodd e yrfa ddisglair yng nghrysau Ajax a Barcelona cyn mentro i’r byd hyfforddi, lle bu wrth y llyw am gyfnodau byr yn unig yn Inter Milan a Crystal Palace cyn derbyn yr alwad gan ei wlad.