Mae tîm criced Morgannwg wedi curo Surrey o un rhediad mewn gêm ugain pelawd gyffrous yng Nghaerdydd.
Sgoriodd Morgannwg 153 am chwech yn eu hugain pelawd, gyda David Lloyd a Billy Root yn sgorio 41 yr un, a Kiran Carlson yn sgorio 32 wrth agor y batio.
Brwydrodd Surrey yn galed am y fuddugoliaeth, gydag Ollie Pope, batiwr Lloegr, yn sgorio 60, ac fe darodd Kyle Jamieson 31 cyn cael ei redeg allan gan y bowliwr Timm van der Gugten oddi ar belen olaf, wrth i Surrey orffen ar 152 am naw.
Batiad Morgannwg
Galwodd Surrey yn gywir a gwahodd Morgannwg i fatio, ac fe wnaeth y ddau Gymro David Lloyd a Kiran Carlson fanteisio ar hynny wrth iddyn nhw adeiladu partneriaeth o 56 cyn i Carlson gael ei ddal gan Rory Burns am 32 wrth ergydio Jamie Overton i ochr y goes.
Roedd Morgannwg yn edrych yn gyfforddus ar 64 am un ar ddiwedd y cyfnod clatsio ond fe gollon nhw ddwy wiced yn y degfed pelawd, wrth i Colin Ingram gael ei fowlio gan y troellwr llaw chwith Dan Moriarty am bump, cyn i Lloyd gael ei redeg allan i adael Morgannwg yn 81 am dair hanner ffordd trwy’r batiad.
Roedden nhw’n 107 am bedair yn y bymthegfed pelawd pan yrrodd Chris Cooke at Jamieson ar yr ochr agored oddi ar fowlio’r troellwr Will Jacks am 15.
Ond collon nhw ormod o wicedi yn y pelawdau i fanteisio’n llawn ar y dechrau da, gan golli Dan Douthwaite a James Weighell mewn pelawdau olynol i’w gadael nhw’n 124 am chwech ar ôl pelawd ddi-sgôr.
Dan bwysau i gynyddu’r sgôr ryw fymrym, aeth Billy Root amdani yn y belawd olaf, gan daro pedwar chwech oddi ar fowlio Gus Atkinson i orffen heb fod allan ar 41 i sicrhau sgôr cystadleuol.
Surrey yn cwrso’n ofer
Dechreuodd batiad Surrey yn y modd gwaethaf posib, wrth iddyn nhw golli Will Jacks oddi ar belen gynta’r batiad pan gafodd ei ddal gan Roman Walker yn y cyfar oddi ar fowlio’r troellwr llaw chwith Prem Sisodiya.
Cafodd Laurie Evans ei ddal gan Colin Ingram wrth yrru i’r ochr agored oddi ar fowlio Timm van der Gugten yn yr ail belawd i adael Surrey yn wyth am ddwy.
Tarodd Rory Burns, un arall o fatwyr Lloegr, ddau bedwar a chwech yn y drydedd pelawd oddi ar James Weighell ac fe gafodd Morgannwg gyfle yn y bedwaredd i redeg Pope allan cyn iddo fe arwain ei dîm i 53 am ddwy ar ddiwedd y cyfnod clatsio.
Cafodd Surrey ddwy belawd dawel cyn i Walker fowlio Burns am 24 i adael Surrey yn 65 am dair ar ôl naw pelawd, ac fe gollodd yr ymwelwyr rywfaint o fomentwm yng nghanol y batiad cyn i Jamie Smith geisio eu rhoi nhw ar ben ffordd unwaith eto.
Fe allai Smith fod wedi cael ei ddal gan Colin Ingram am bedwar ond fe aeth yn ei flaen i sgorio 20 cyn cael i ddal yn y pen draw gan Cooke y tu ôl i’r wiced oddi ar fowlio Weighell.
Ond collodd Surrey ormod o wicedi wedyn mewn cyfnod byr, wrth i Jamie Overton gael ei fowlio gan Sisodiya, gyda Ben Geddes yn cael ei ddal gan van der Gugten oddi ar ei fowlio’i hun, a Pope yn cael ei redeg allan am 60 fel bod Surrey yn 127 am saith ar ôl 18 pelawd.
Cafodd Gus Atkinson ei ddal gan yr eilydd Callum Taylor oddi ar fowlio Dan Douthwaite yn y belawd olaf ond un cyn i Jamieson daro dau bedwar a chwech mewn ymgais hwyr i fynd amdani.
13 oedd eu hangen oddi ar y belawd olaf, ac fe darodd Jamieson ergyd am chwech a rhoi Surrey o fewn cyrraedd, ac roedd angen dau oddi ar y belen olaf i ennill cyn iddo fe gael ei redeg allan oddi ar y belen olaf.