Mae Matt Grimes, capten Clwb Pêl-droed Abertawe, yn dweud bod y tîm eisiau dechrau 2021 yn gryf wrth iddyn nhw groesawu Watford i Stadiwm Liberty yfory (dydd Sadwrn, Ionawr 2).

Maen nhw’n dechrau’r flwyddyn yn y trydydd safle yn y Bencampwriaeth, bedwar pwynt y tu ôl i Norwich ar y brig, a phwynt yn unig y tu ôl i Brentford, sydd yn yr ail safle o ddau awtomatig.

Cyrhaeddodd yr Elyrch y gemau ail gyfle y tymor diwethaf ac maen nhw’n gwthio unwaith eto am ddyrchafiad er bod hanner y tymor yn weddill.

Daw’r gêm gyntaf yn 2021 yn erbyn un o dimau cryfa’r Bencampwriaeth, gyda Watford ymhlith y tri thîm oedd wedi cwympo o’r Uwch Gynghrair ar ddiwedd y tymor diwethaf.

“Afraid dweud fod 2020 wedi bod yn flwyddyn anodd iawn i bawb, does dim dianc rhag hynny,” meddai Matt Grimes.

“Ond o safbwynt pêl-droed, dw i’n teimlo ein bod ni wedi dod yn ein blaenau’n arbennig o dda fel tîm.

“Rydyn ni wedi rhoi ein hunain mewn sefyllfa dda wrth fynd i mewn i’r flwyddyn newydd, ond yr her yw parhau i wella oherwydd dyna sydd ei angen.

“Os ydych chi’n sefyll yn yr unfan, fe gewch chi eich pasio, felly rhaid i ni gadw i fynd.”

 

Llongyfarch Alan Curtis MBE

Yn y cyfamser, mae’r rheolwr Steve Cooper wedi llongyfarch Alan Curtis, un o fawrion Clwb Pêl-droed Abertawe, ar dderbyn MBE yn yr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd.

Mae Llywydd Anrhydeddus 66 oed y clwb wedi’i anrhydeddau am ei gyfraniad i bêl-droed yng Nghymru, ac yntau wedi bod yn chwaraewr ac yn aelod blaenllaw o dîm hyfforddi’r clwb ers dros bedwar degawd.

Fel ymgynghorydd i’r bwrdd cyfarwyddwyr, roedd y Cymro o Gwm Rhondda yn flaenllaw yn y penderfyniad i benodi Steve Cooper yn rheolwr fis Mehefin y llynedd.

“Mae’n anhygoel,” meddai Steve Cooper.

“Y teimlad cychwynnol o fewn y clwb pêl-droed yw balchder mawr, a llongyfarchiadau iddo fe.

“Mae’n wych iddo fe oherwydd mae’n gydnabyddiaeth go iawn o’i wasanaeth i bêl-droed yng Nghymru.

“Mae e wedi gweithio gyda’r tîm cenedlaethol ac Abertawe.

“Mae pawb yn y byd pêl-droed yng Nghymru’n gwybod pwy yw Alan Curtis.

“Dw i wedi ei adnabod e am amser hir erbyn hyn ond dw i wedi dod i’w adnabod e’n arbennig o dda ers i fi fod yma.

“Rydyn ni’n sgwrsio’n rheolaidd, rydyn ni’n sgwrsio’n helaeth am ei farn am y gêm.

“Mae e bob amser yn onest â fi ac mae e’n foi da iawn.

“Mae e’n berson sy’n hoffi pobol, ac mae e wedi gwneud cyfraniad enfawr i bêl-droed yng Nghymru fel chwaraewr a hyfforddwr.

“Bydda i bob amser yn ddyledus iddo fe, Leon [Britton] a Trevor [Birch] am wrando arna i ac am roi’r cyfle i fi reoli’r clwb hwn.”