Mae’r Gynghrair Bêl-droed wedi tynhau eu protocol coronafeirws er mwyn atal ymlediad y feirws trwy’r clybiau wrth i’r tymor barhau.

O hyn ymlaen, bydd disgwyl i chwaraewyr gyrraedd y cae ymarfer yn eu cit yn hytrach na newid ar y safle.

Bydd rhaid cau ystafelloedd newid a chyfleusterau bwyta dan do, yn ogystal â champfeydd a mannau eraill dan do.

Bydd chwaraewyr yn derbyn cais i beidio â theithio gyda’i gilydd mewn ceir i sesiynau ymarfer nac i gemau.

Os nad yw clybiau’n dilyn y protocol, mae’n fwy tebygol erbyn hyn y byddan nhw’n cael eu cosbi nag ar y dechrau pan ddychwelodd chwaraewyr ar gyfer sesiynau ymarfer wrth i’r tymor ailddechrau.

Cynnydd mewn achosion

Daw’r mesurau newydd yn dilyn cynnydd sydyn a sylweddol mewn achosion o’r coronafeirws mewn clybiau pêl-droed.

Mae nifer sylweddol o gemau wedi’u gohirio’n ddiweddar, a nod y Gynghrair yw ceisio atal rhagor o gemau rhag gorfod cael eu symud.

Does dim modd gweithredu’r protocol yn unswydd ar gyfer pob achos, ond mae disgwyl i glybiau sy’n torri’r rheolau’n fwy aml na’r gweddill gael eu cosbi’n llymach.

Bydd y Gynghrair yn ymchwilio i bob gêm sy’n cael ei gohirio, a’r disgwyl yw y bydd modd cyflwyno dirwy neu gosb arall os nad oes digon o gyfiawnhad neu os yw’r clybiau wedi torri’r rheolau a bod hynny wedi arwain at gynnydd mewn achosion.