Mae’r Gleision wedi cyhoeddi saith newid i’w tîm i herio’r Gweilch yn y brifddinas heddiw (dydd Gwener, Ionawr 1).
Mae hon yn un o ddwy gêm ddarbi heddiw, gyda’r Scarlets hefyd yn croesawu’r Dreigiau.
Mae Rey Lee-Lo yn dychwelyd i ganol cae, tra bod Tomos Williams yn chwarae yn safle’r mewnwr yn lle Lloyd Williams.
Gyferbyn â Williams yn nhîm y Gweilch mae Rhys Webb, sy’n dychwelyd yn lle Reuben Morgan-Williams.
Mae pedwar wyneb newydd ym mhac y Gweilch hefyd, gyda Sam Cross yn dychwelyd ochr yn ochr â thriawd y rheng flaen, sef Rhodri Jones, Ifan Phillips a Ma’afu Fia.
Daw Kieran Williams i mewn yn lle Tiaan Thomas-Wheeler yng nghanol cae.
Yn rheng flaen y Gleision mae Dmitri Arhip yn lle Dillon Lewis, gyda Rhys Carré yn ymddangos am y tro cyntaf y tymor hwn.
Mae Shane Lewis-Hughes yn dychwelyd i reng ôl ryngwladol sydd hefyd yn cynnwys James Botham a Josh Turnbull.