Gohebydd Golwg360 Alun Rhys Chivers fu’n holi un o hoelion wyth Clwb Pêl-droed Abertawe ar y noson y derbyniodd wobr Cyfraniad Oes
Dywedodd hyfforddwr tîm pêl-droed Abertawe, Alan Curtis wrth Golwg360 nos Fercher ei bod hi’n “fraint ac yn anrhydedd” cael derbyn gwobr Cyfraniad Oes gan Ymddiriedolaeth Cefnogwyr y clwb.
Cafodd Curtis ei anrhydeddu yn Stadiwm Liberty ar y noson pan gafodd gwobrau diwedd tymor y clwb eu rhoi i’r chwaraewyr, ac ar y diwrnod y daeth cadarnhad fod y rheolwr presennol Francesco Guidolin yn aros yn Abertawe am ddau dymor arall.
Er nad oes sicrwydd eto, mae disgwyl i Curtis, sydd wedi bod gyda’r clwb ers 40 mlynedd, aros yn rhan o’r tîm hyfforddi’r tymor nesaf.
Gyrfa
Dechreuodd Curtis, sy’n hanu o’r Rhondda, ei yrfa fel chwaraewr gyda’r Elyrch yn 1972 gan dreulio saith tymor gyda’r clwb, gan ennill dyrchafiad i’r Drydedd Adran yn 1977-78 ac i’r Ail Adran yn 1978-79.
Treuliodd gyfnod byr gyda Leeds yn 1979-80 cyn dychwelyd i Abertawe yn yr Adran Gyntaf yn 1980-81.
Symudodd i Southampton yn 1983, cyn mynd ar fenthyg yn Stoke yn 1986 ac i Gaerdydd ar ddiwedd y tymor hwnnw, lle enillodd ddyrchafiad i’r Drydedd Adran yn 1987-88 a Chwpan Cymru yn 1988.
Ond fe ddychwelodd i Abertawe yn 1989-90 cyn gorffen ei yrfa gyda’r Barri.
Enillodd 35 o gapiau dros Gymru.
Ar ôl ymddeol, cafodd ei benodi i’r tîm hyfforddi.
Daeth yn rheolwr dros dro yn 2004 fel olynydd i Brian Flynn, ac unwaith eto’r tymor hwn fel olynydd i Garry Monk. Roedd hefyd yng ngofal y tîm am gyfnod yn ystod y tymor hwn pan oedd Francesco Guidolin yn yr ysbyty.
Mae Curtis bellach wedi dychwelyd i’w rôl fel hyfforddwr y tîm cyntaf ac mae disgwyl iddo barhau yn ei swydd o dan Guidolin, sydd bellach yn rheolwr parhaol.
‘Braf cael cydnabyddiaeth’
Ar ôl derbyn ei wobr, dywedodd Alan Curtis wrth Golwg360: “Mae’n golygu cryn dipyn. Mae hi bob amser yn braf cael cydnabyddiaeth am yr hyn ry’ch chi wedi’i wneud dros eich clwb. Mae hi wir yn fraint.
“Mae pobol sydd bob amser yn ei haeddu mwy, ond am wn i, gyda Gwobr Cyfraniad Oes, dwi siŵr o fod wedi bod gyda’r clwb ers 40 mlynedd nawr. Falle ’mod i wedi’i ddisgwyl e.
“Ond fel arfer os y’ch chi’n derbyn gwobr fel hon, mae’n golygu eich bod chi naill ai yn eich tymor olaf neu’n dirwyn i ben. Ond gobeithio bod cryn dipyn o amser i fynd eto.”
Rhan annatod o’r clwb
Bob tro mae Alan Curtis wedi gadael y clwb, mae e bob amser wedi cael croeso cynnes yn ôl.
“Er bo fi wedi bod gyda’r clwb am sbel, rwy wedi cael fy ngwerthu gan y clwb, wedi cael trosglwyddiad rhad ac am ddim ac wedi cael fy niswyddo ddwywaith hefyd. Mae’n un o’r pethau hynny.
“Rwy bob amser wedi dweud bod band rwber yn fy nghysylltu i i’r clwb a ’mod i bob amser yn bownsio’n ôl. Rwy wrth fy modd o fod wedi cael amser gwych yma.
“Pan ddes i i’r clwb am y tro cyntaf yn fachgen 17 oed o’r Rhondda, doedd dim syniad gyda fi y byddwn i’n dal gyda’r clwb a finnau newydd droi’n 62 oed.
“Rhan fwya’r amser, hyd yn oed trwy’r amserau anodd, ry’ch chi’n mwynhau bob munud.
“Fe fu’n fraint ac yn anrhydedd o’r mwyaf cael cynrychioli’r clwb ac o fod gyda’r clwb ers cyhyd.”
Rheolwr
Un swydd nad yw Alan Curtis wedi’i chael hyd yma yw swydd y rheolwr parhaol.
“Yn sicr yn fy nyddiau cynnar, ro’n i am ei chael hi er nad o’n i wedi trio amdani go iawn ond fe wnes i’n sicr fod pobol yn gwybod y byddwn i wedi derbyn y swydd.
“Ond wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, rwy’n credu’ch bod chi’n sylweddoli beth bynnag yw eich cryfder, eich bod yn fwy addas i fod yn rheolwr cynorthwyol.
“Rwy’n credu bod rhaid i chi fod yn ‘deip’ arbennig i fod yn rheolwr. Do’n i fwy na thebyg ddim yn addas ar gyfer hynny. Ond bob tro dwi wedi camu i mewn, dwi wedi mwynhau’r swydd, nid lleiaf eleni.
“Roedd yn dymor enfawr i ni, roedd yn dymor anodd hefyd. Ond pan ddes i’n rheolwr dros dro, fe wnes i fwynhau’n fawr a gobeithio ’mod i wedi chwarae rhan fach wrth sicrhau ein bod ni’n aros yn y gynghrair.”
Dywedodd Curtis na fu trafodaethau go iawn rhyngddo fe a Guidolin ers i’r Eidalwr gael ei benodi’n barhaol brynhawn dydd Mercher.
“Ry’n ni’n siarad drwy’r amser. Yn amlwg, dim ond [prynhawn dydd Mercher] cafodd y cyhoeddiad ei wneud felly dy’n ni ddim wir wedi cael digon o amser i drafod y peth.”
Am y tro, mae sylw Curtis wedi’i hoelio ar gêm ola’r tymor pan fydd Man City yn ymweld â Stadiwm Liberty ddydd Sul.
“Rhaid i ni baratoi ar gyfer gêm fawr nawr, ond fe fyddwn ni’n achub ar y cyfle dros y dyddiau nesaf i edrych ymlaen at y tymor nesaf hefyd.”
Enillwyr y gwobrau’n llawn
Cyfraniad Oes – Alan Curtis
Chwaraewr Gorau’r Tymor (wedi’i ddewis gan y cefnogwyr drwy’r South Wales Evening Post) – Gylfi Sigurdsson
Gôl Orau’r Tymor – Jack Cork (yn erbyn Lerpwl)
Prif Sgoriwr y Tymor – Andre Ayew / Gylfi Sigurdsson (11 gôl yr un)
Newydd-ddyfodiad Gorau’r Tymor – Andre Ayew
Chwaraewr Gorau’r Tymor (wedi’i ddewis gan y chwaraewyr) – Gylfi Sigurdsson
Chwaraewr Gorau’r Tymor mewn Gemau Oddi Cartref – Gylfi Sigurdsson
Chwaraewr Ifanc Gorau’r Tymor – Modou Barrow
Chwaraewr dan 21 Gorau’r Tymor – Stephen Kingsley