Nid yn y Cynulliad yn ynig y mae’r cyffro wedi bod yr wythnos hon, wrth i fyd y bêl gron ddwyn y sylw hefyd gyda chyhoeddiad carfan estynedig Cymru ar gyfer Ewro 2016.

Gyda mis i fynd nes gêm gyntaf Cymru yn y gystadleuaeth mae Owain Schiavone, Iolo Cheung a Tommie Collins wedi dychwelyd i drafod rhai o’r prif bynciau ar Bod Pêl-droed Golwg360.

A ydi Chris Coleman wedi gwneud y penderfyniad cywir gyda’r 29 yn y garfan estynedig? Pwy fydd y saith anlwcus fydd yn cael eu rhyddhau cyn y garfan derfynol? Pa chwaraewr canol cae ddylai gamu i’r adwy os ydi Joe Ledley’n methu â gwell mewn pryd?

Yn ogystal â thrafod hynny, mae’r triawd yn trafod Cymreictod a siaradwyr Cymraeg y garfan, yn ogystal â chlywed beth oedd gan Chris Gunter, Nic Parry a Tim Hartley i’w ddweud mewn cyfweliadau diweddar â Golwg.

Heb oedi ymhellach, mwynhewch y pod diweddaraf!