Mae Neil Harris, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, yn cyfaddef ei fod e dan bwysau wrth i’w dîm herio Rotherham yn y Bencampwriaeth yfory (dydd Sadwrn, Ionawr 2).
Cafodd y rheolwr ei ddanfon i’r eisteddle yn ystod y golled siomedig yn erbyn Wycombe yng ngêm ddiwetha’r Adar Gleision – eu trydedd colled o’r bron yn y gynghrair.
“Dw i’n credu ei bod hi’n gêm enfawr yn fy nghyfnod wrth y llyw yng Nghaerdydd,” meddai.
“Fel rheolwr, os nad ydych chi’n ennill gemau pêl-droed, fe gewch chi eich cwestiynu a dw i’n derbyn hynny.”
Collodd Rotherham yn erbyn Barnsley yn eu gêm ddiwethaf, a hynny wrth iddyn nhw enwi dim ond chwech o eilyddion.
Cafodd eu dwy gêm ddiwethaf cyn hynny eu gohirio oherwydd y coronafeirws, ond roedd y rheolwr Paul Warne yn teimlo nad oedd dewis ond chwarae’r gêm er bod y sefyllfa’n “annheg”.