Do, mi ddaeth y diwrnod o’r diwedd. Mi allwch chi stopio hiraethu am 1958 ac anghofio am Joe Jordan, Paul Bodin a Vadim Evseev rŵan, achos yr haf nesaf fe fydd Cymru o’r diwedd mewn pencampwriaeth bêl-droed ryngwladol eto!

Fe gipiodd y tîm eu lle yn Ewro 2016 nos Sadwrn er gwaethaf colli 2-0 i Bosnia, cyn trechu Andorra o 2-0 o flaen eu torf gartref nos Fawrth i ddathlu’r ffaith eu bod wedi cyrraedd Ffrainc.

Pa well esgus felly i griw y Pod Pêl-droed ddod at ei gilydd am sgwrs na’r ffaith mai hon oedd y wythnos fwyaf yn hanes pêl-droed Cymru ers 58 mlynedd?

Yn ymuno ag Owain Schiavone a Iolo Cheung ar y pod heddiw mae’r cefnogwr Robyn Cooke, y dyn tu ôl i gyfrif Twitter hynod boblogaidd @walesaway.

Mae’r tri yn trafod y ddwy gêm wythnos yma a pherfformiadau’r chwaraewyr, yn ogystal â’r dathliadau ym Mosnia a Chaerdydd a’r teimlad anghyfarwydd o fod wedi cyrraedd twrnament rhyngwladol.

Ac mae’r sylw eisoes wedi dechrau troi at Ffrainc y flwyddyn nesaf – pwy sydd wedi dechrau trefnu yn barod, a pha un ohonyn nhw sy’n meddwl y gwnaiff Cymru ennill y gystadleuaeth?!