Wayne Hennessey
Mae Cymru’n barod i deithio i Ffrainc a synnu’r timau eraill fydd yno ar gyfer Ewro 2016 yr haf nesaf, yn ôl golwr y tîm Wayne Hennessey.
Yn dilyn y fuddugoliaeth dros Andorra nos Fawrth ddaeth a’u hymgyrch ragbrofol i ben, mae sylw chwaraewyr Cymru eisoes wedi troi tuag at beth allan nhw ei gyflawni yn Ffrainc ymhen wyth mis.
Dywedodd seren y tîm Gareth Bale y byddai cymryd rhan yn y twrnament hefyd yn debygol o roi awch ychwanegol i’r chwaraewyr sicrhau eu bod yn parhau i gyrraedd pencampwriaethau rhyngwladol yn y dyfodol.
Barod i greu sioc
Fe sicrhaodd Cymru eu lle yn yr Ewros nos Sadwrn er gwaethaf colli 2-0 i Bosnia, ond roedd y fuddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Andorra nos Fawrth yn gyfle i ddathlu gyda’u torf gartref yng Nghaerdydd.
Ac mae golwr y tîm Wayne Hennessey wedi awgrymu y bydd sawl tîm yn y gystadleuaeth yn awyddus i osgoi Cymru.
“Gobeithio byddai’n pasio’r straeon yna ymlaen i fy mhlant i ryw ddydd [am ddathlu cyrraedd twrnament]. Mae o jyst yn rhan mor fawr o hanes Cymru,” meddai Hennessey.
“Mae digon o dalent yn yr ystafell newid yna i ni allu mynd i dwrnament rhyngwladol, maen nhw wedi dangos hynny ar y cae.
“Gobeithio gallwn ni synnu rhai pobl, dw i’n siŵr y gallwn ni wneud yn dda. Mae’n her i ni, ac mae gennym ni ddigon o allu yn y garfan i brofi pobl yn anghywir.”
Gwneud y genedl yn falch
Roedd sicrhau lle Cymru yn eu twrnament rhyngwladol cyntaf ers 1958 hefyd yn brofiad arbennig i Gareth Bale, y seren sydd wedi sgorio saith o un ar ddeg gôl Cymru yn ystod yr ymgyrch.
Gyda’i broffil uchel fel chwaraewr drytaf y byd yn Real Madrid roedd llawer yn poeni y byddai ei yrfa yn dilyn trywydd tebyg i Ryan Giggs, un o sawl Cymro byd enwog chafodd erioed y cyfle i chwarae mewn pencampwriaeth fawr gyda’i wlad.
Ond ar ôl sicrhau ei le yn y llyfrau hanes, dywedodd Bale fod ganddo’r awch i sicrhau nad dim ond digwyddiad unwaith mewn oes fydd hyn.
“Gobeithio gallwn ni fynd i Ffrainc nawr a rhoi rheswm i’r genedl fod yn falch,” meddai Bale.
“Rydyn ni’n gobeithio mai dechrau rhywbeth fydd hyn, ac fe fydd bod yn Ffrainc y flwyddyn nesaf dim ond yn cynyddu ein hawch ni am fwy o bencampwriaethau.
“Rydyn ni’n credu ein bod ni’n ddigon da i gyrraedd twrnamentau eraill yn y dyfodol, ac fe wnawn ni ein gorau i gyflawni hynny.”
Hyder tawel Ramsey
Fe fydd Cymru ymysg y detholion isaf pan fydd grwpiau’r gystadleuaeth yn cael eu dewis ym mis Rhagfyr.
Ond dyw hynny ddim i’w weld yn poeni Aaron Ramsey yn ormodol, gyda chwaraewr canol cae Arsenal yn mynnu y bydd unrhyw wrthwynebydd yn Ffrainc yn rhai heriol.
“Mae’n mynd i fod yn anodd. Ni fydd y detholion isaf, ac fe fyddwn ni’n wynebu rhai o dimau mwyaf Ewrop,” cyfaddefodd Ramsey, a sgoriodd y gôl agoriadol yn erbyn Andorra.
“Ond rydyn ni’n hyderus, rydyn ni’n dîm peryglus sydd ddim yn ildio llawer o goliau, felly fe gawn ni weld.”