Carfan Cymru yn dathlu cyrraedd Ewro 2016 (llun: Adam Davy/PA)
Iolo Cheung sydd yn edrych nôl ar ei hoff adegau o’r ymgyrch hanesyddol
Felly dyma sut mae’n teimlo. 58 mlynedd o aros, 58 mlynedd o dorcalon wrth weld tîm Cymru’n colli mewn gêm allweddol, neu mor anobeithiol dydyn nhw ddim hyd yn oed yn agos at gyrraedd twrnament rhyngwladol.
A hynny i gyd wedi’i anghofio mewn eiliad wrth i’r newyddion dreiddio bod canlyniadau nos Sadwrn 10 Hydref yn ddigon o’r diwedd i anfon bechgyn Chris Coleman i Ewro 2016.
Er i’r tîm golli 2-0 ym Mosnia neithiwr, roedd buddugoliaeth Cyprus yn erbyn Israel yn ddigon i sicrhau ein bod ni’n saff o orffen yn nau safle uchaf y grŵp, a sicrhau’n lle yn Ffrainc yn y broses.
Mae wedi bod yn ymgyrch fythgofiadwy, ac i’r rheiny ohonom sydd wedi dilyn y tîm drwy gydol y daith (ac mewn sawl ymgyrch aflwyddiannus flaenorol) fe fydd rhai o’r atgofion yn aros gyda ni am weddill ein bywydau.
Dyma fy neg uchafbwynt personol i o’r ymgyrch – dw i’n siŵr y bydd gan sawl un ohonoch chi atgofion melys eraill o’n siwrne ni i Ewro 2016 felly croeso i chi rannu’r rheiny yn y blwch sylwadau isod!
Bale yn achub y tîm yn Andorra
Nes i fethu â theithio i Andorra ar gyfer gêm agoriadol yr ymgyrch, ond er hynny roedd y criw (bychan) ohonom ni oedd yn gwylio’r gêm yn y dafarn yn Aberystwyth yn hyderus o fuddugoliaeth gyfforddus.
Ar ôl 80 munud o wylio rhwng y bysedd a bytheirio am y perfformiad sâl, diolch byth am gic rydd hwyr Gareth Bale (a phenderfyniad y dyfarnwr i adael iddo gymryd y gic eto!).
Rhyddhad yn fwy na dim, ond am ryddhad. Dim rhyfedd bod dwsinau o gefnogwyr wedi rhedeg ar y cae.
Y chwiban olaf yn erbyn Cyprus
Rhyddhad oedd hwn eto yn fwy na dim. Roedd Cymru’n hollol wefreiddiol am yr 20 munud cyntaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gan sgorio dwy gôl a rheoli’r gêm yn llwyr.
Ond ar ôl gôl Cyprus ac yna cerdyn coch Andy King fe newidiodd pethau, ac roeddech chi’n gallu teimlo’r nerfusrwydd o gwmpas y stadiwm. Roedd y llun o Gareth Bale yn bloeddio dathlu ar y diwedd yn dweud y cyfan.
Zombie Nation
Tair gêm wedi bod a saith pwynt yn y bag, felly roedd hi’n teimlo fel bod llai o bwysau ar y daith i Frwsel ar gyfer y bedwaredd gêm yn erbyn Gwlad Belg.
Cafodd hynny ei adlewyrchu yn y gefnogaeth yn y stadiwm, gyda 4,500 ohonom ni yn canu a mwynhau drwy gydol y gêm.
Roedd y dathliadau ar ddiwedd y gêm ar ôl i ni gipio pwynt annisgwyl yn wych, gyda’r chwaraewyr yn dod draw a thaflu eu crysau i’r dorf, a Zombie Nation yn atseinio drwy’r uchelseinydd.
Honno ydi anthem answyddogol yr ymgyrch bellach, ac fe all cefnogwyr Cymru edrych ymlaen at glywed y gân ddawns drosodd a throsodd yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.
Dathlu yn Delirium
“Don’t take me home, please don’t take me home …” – roedd tafarndai Brwsel yn brysur iawn y noson honno, a nunlle yn fwy na Delirium yng nghanol y ddinas a oedd yn llawn cefnogwyr Cymru yn bloeddio canu drwy’r nos.
A dw i’n golygu drwy’r nos. Ar ôl i’r bar ei hun gau fe lifodd y cefnogwyr allan i’r strydoedd, gyda chwpl o fy ffrindiau yn taro i mewn i ohebydd Sky Sports Bryn Law a’r tri ohonyn nhw ag eraill yn parhau i gadw sŵn hyd yr oriau mân.
Roedd O’Reilly’s a Celtica hefyd dan ei sang wrth i’r cefnogwyr fwynhau eu penwythnos hir yng Ngwlad Belg.
Peniad Ramsey
Pedwar gêm wedi bod, a dal heb golli, ond roedd gêm rhif pump yn erbyn Israel oddi cartref yn un hynod o allweddol gan fod y gwrthwynebwyr wedi ennill pob un o’u gemau hyd hynny.
Fe reolodd Cymru’r ail hanner yn llwyr, ond fe fethodd James Collins ymysg eraill gyfleoedd da ac roedden ni’n dechrau teimlo’n nerfus y byddai Israel yn ein cosbi yn yr ail hanner.
Diolch byth am beniad Ramsey eiliadau cyn yr egwyl felly, gyda’r gôl honno yn agor y llifddorau a ganiataodd i Bale ychwanegu dwy arall yn yr ail hanner. Buddugoliaeth allweddol yn ystod cyfnod tyngedfennol yn y grŵp.
Nainggolan …
Am anrheg. Does wybod beth oedd Radja Nainggolan yn meddwl yr oedd o’n ei wneud wrth drio penio’r bêl nôl i’w golwr a chanfod Gareth Bale yn lle hynny, ond does gan yr un cefnogwr Cymru ots am hynny.
Hyd yn oed ar ôl i’r bêl lanio’n annisgwyl o’i flaen fe gymrodd hi dechneg wych gan seren Cymru i lithro’r bêl rhwng coesau Thibaut Courtois ac i gefn y rhwyd. Roedd bloedd Malcolm Allen ar sylwebaeth Sgorio yn crisialu’r teimlad i’r dim.
… a’r anthem
Roedd darllen nôl ar ail hanner y blog byw roeddwn i’n sgwennu ar Golwg360 o gêm Cymru v Gwlad Belg yn dweud y cyfan. Hyd yn oed o eisteddle’r wasg, roedd yr awyrgylch yn y Canton a gweddill y stadiwm yn fyddarol.
Dw i ac eraill oedd yno noson honno wedi bod mewn sawl gêm rygbi yn Stadiwm y Mileniwm dros y blynyddoedd, ac roedden ni i gyd yn cytuno bod Hen Wlad Fy Nhadau bron erioed wedi swnio mor dda ag y gwnaeth o yn ail hanner y gêm honno yn erbyn Gwlad Belg.
Rydyn ni wedi gweld sawl gêm y tîm pêl-droed cenedlaethol dros y blynyddoedd diwethaf ble roedd hi mor ddistaw y buasech chi’n gallu clywed y chwaraewyr ar y cae yn gweiddi ar ei gilydd. Felly roedd yr awyrgylch danbaid yn erbyn Gwlad Belg wir yn codi calon.
Clapio yng Nghyprus
Roedd sawl uchafbwynt am y trip i Gyprus, oedd yn gyfuniad o ymlacio wrth y pwll yn y dydd a chadw sŵn â gweddill y cefnogwyr oedd yno gyda’r nos.
Ond un moment oedd yn sefyll allan i mi oedd cyn y gêm ei hun, wrth i 3,500 ohonom ni lenwi awyr Nicosia â sŵn yr anthem cyn y gic gyntaf.
Ar ôl i ni orffen canu fe drodd pob un o chwaraewyr Cymru tuag atom ni a chlapio – y tro cyntaf i mi gofio eu gweld nhw’n gwneud hynny yn ystod yr ymgyrch, ond jyst un arwydd o’r agosatrwydd hyfryd yna sydd wedi datblygu rhwng y chwaraewyr a’r dorf dros y gemau diwethaf.
Peniad Church
Dim ond am eiliad barodd y foment, ond roedd yr eiliad hwnnw’n un o orfoledd pur. Peniad Simon Church i gefn y rhwyd yn y munud olaf yn erbyn Israel oedd yn edrych fel petai wedi sicrhau ein lle yn Ffrainc.
Yna fe gododd baner y llumanwr, gan olygu mis arall o aros i Gymru tan y foment fawr. Byddai wedi bod yn berffaith gorffen y job o flaen y cefnogwyr gartref yng Nghaerdydd.
Ond roedd hynny wedi rhoi blas i ni o beth oedd i ddod. Mater o amser fyddai hi.
Demetriou ar y sgrin fach
Nôl yn Aberystwyth roedden ni ar gyfer y gêm fawr yn erbyn Bosnia, a’r disgwyliadau yn troi i siom wrth i Gymru fynd 2-0 ar ei hôl hi mewn gêm oedd yn un agos ond mewn gwirionedd yn reit ddiflas.
Ond doedd dim ots am unrhyw o hynny, wrth i sgrin fach Sky Sports ddod i fyny ar y gwaelod a dangos Jason Demetriou yn waldio ail gôl Cyprus yn erbyn Israel i gefn y rhwyd.
Yn sydyn reit doedd neb ots am y canlyniad yn Zenica, a munudau yn ddiweddarach fe ddechreuodd y dathliadau fyddai’n para drwy’r nos ac am yr wyth mis nesaf.