Boreham Wood 0–1 Wrecsam
Roedd gôl gynnar Connor Jennings yn ddigon i Wrecsam gipio’r tri phwynt wrth deithio i Meadow Park i wynebu Boreham Wood yn y Gynghrair Genedlaethol brynhawn Sadwrn.
Dechreuodd Boreham Wood yn dda ond Wrecsam aeth ar y blaen wedi deuddeg munud pan beniodd Jennings groesiad Blaine Hudson i gefn y rhwyd.
Cafodd Dominic Vose gyfleoedd i ddyblu’r fantais i’r Dreigiau a tharodd Joe Devera’r postyn i Boreham Wood.
Yn wir, cafodd Wrecsam ddigon o gyfleoedd i ychwanegu at y sgôr yn yr ail hanner ond roedd un gôl yn ddigon yn y diwedd i gipio’r tri phwynt a’i codi i’r ail safle yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol.
.
Boreham Wood
Tîm: Russell, Cox (Morias 63′), Doe, Shakes, Devera, Reynolds, Howell, Hill (B. Clifford 46′), C. Clifford, Montgomery, MacDonald (Whichelow 85′)
Cardiau Melyn: Hill 31’, Cox 48’
.
Wrecsam
Tîm: Belford, Smith, Hudson, Moke, Newton, Fyfield, Evans, Vose (Fowler 78′), Gray (Carrington 62′), York (Jackson 55′), Jennings
Gôl: Jennings 12’
Cerdyn Melyn: Jennings 50’
.
Torf: 685