Fe gafodd dyn ei daro gan drên pan syrthiodd ar y trac yng ngorsaf Twickenham neithiwr, wrth i filoedd o gefnogwyr rygbi geisio gwneud eu ffordd adref wedi gêm agoriadol pencampwriaeth Cwpan Rygbi’r Byd.

Fe ddioddefodd anafiadau i’w ben ac i’w goes, ac mae’n derbyn triniaeth yn Ysbyty Gorllewin Middlesex.

Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain (y BTP) yn ymchwilio i’r digwyddiad, ac am ganfod sut y daeth y dyn i syrthio ar y trac oddi ar blatfform 3. Mae’n ymddangos, o’r adroddiadau cynnar, mai damwain oedd hi.

Ond fe gaewyd y stesion dros dro, tra’r oedd y gwasanaethau brys yn delio â’r sefyllfa. Roedd hynny tua 11yh neithiwr, ac fe fu oedi pellach o ddwyawr a hanner pan ail-agorodd yr orsaf yn ddiweddarach.

“Fe gafodd y dyn ei daro dan dren 10.33yh o Windsor i Waterloo,” meddai llefarydd ar ran y BTP. “Roedd y trên hwnnw ar ei ffordd i mewn i’r orsaf, ac felly’n teithio’n araf. Mae’r dyn wedi diodde’ anafiadau i’w goes ac i’w ben  o ganlyniad i’r digwyddiad.

“Ar hyn o bryd, dydi hi ddim yn glir sut yn union y cwympodd y dyn oddi ar y platfform… mae swyddogion yn gweithio’n galed i geisio canfod beth yn union ddigwyddodd.”

Mae rhai o’r teithwry wedi awgrymu fod y sefyllfa’n “anhrefn llwyr” yng ngorsaf Twickenham neithiwr.