Mae batiwr llaw dde Morgannwg, Ben Wright wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o’r byd criced ar ddiwedd y tymor.

Fe gynrychiolodd y chwaraewr 27 oed dîm dan 19 Lloegr rhwng 2005 a 2007, gan ymddangos yng nghrys Morgannwg am y tro cyntaf yn 2006.

Enillodd ei gap yn 2011.

Yn ystod ei yrfa, sgoriodd Wright 3,684 o rediadau i Forgannwg, gan gynnwys chwe chanred a chyfanswm dosbarth cyntaf gorau o 172 yn erbyn Swydd Gaerloyw yng Nghaerdydd yn 2010.

Roedd hefyd yn aelod o’r garfan a gododd dlws Yorkshire Bank40 yn Lord’s yn 2013.

Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad, dywedodd Ben Wright: “Wedi rhoi cryn ystyriaeth iddi dros y misoedd diwethaf, rwy wedi penderfynu ymddeol ar ddiwedd y tymor a derbyn swydd gyda Press Metal UK.

“Dydy’r penderfyniad ddim wedi bod yn un hawdd, ond mae’n gyffrous cael dechrau ar her newydd.

“Hoffwn ddiolch i bawb yng Nghlwb Criced Morgannwg am yr holl gefnogaeth ges i dros y 10 mlynedd diwethaf gyda’r clwb.

“Bu’n fraint cael gwisgo’r Daff.”

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Prif Weithredwr Clwb Criced Morgannwg, Hugh Morris: “Mae Ben wedi bod yn wirioneddol broffesiynol ac fe fydd colled ar ei ôl e yn yr ystafell newid ac o ran ei sgiliau ar y cae.

“Rwy wrth fy modd ei fod e wedi cael ei gyflogi y tu hwnt i’r gamp er mwyn diogelu ei ddyfodol yn y tymor hir.”