Fydd George North ddim yn y tîm i wynebu Uruguay dydd Sul
Mae hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi penderfynu gorffwys rhai o’i brif chwaraewyr ar gyfer yr ornest agoriadol yn erbyn Uruguay yng Nghwpan Rygbi’r Byd dydd Sul.

Mae George North, Jamie Roberts, Dan Biggar, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Taulupe Faletau a Gethin Jenkins i gyd ymysg y chwaraewyr rheolaidd sydd ddim wedi’u henwi.

Sam Warburton fydd yn arwain fel capten ac yn ymuno ag ef yn y rheng ôl fe fydd Justin Tipuric a James King.

Mae Samson Lee a Liam Williams hefyd yn dechrau dros Gymru am y tro cyntaf y tymor hwn ar ôl gwella o anafiadau.

Llygad ar Loegr?

Gyda gornest fawr yn erbyn Lloegr dydd Sadwrn nesaf roedd disgwyl y byddai hyfforddwr Cymru Warren Gatland yn rhoi’r penwythnos bant i ambell un o sêr y tîm.

Mae’r garfan eisoes wedi colli Leigh Halfpenny, Rhys Webb ac Eli Walker i anafiadau ac fe fyddai unrhyw golledion pellach yn erbyn Uruguay, tîm gwanaf y grŵp, yn ergyd mawr i obeithion Cymru.

O’r newydd-ddyfodiaid i’r garfan yn sgil yr anafiadau, mae lle i Ross Moriarty ar y fainc ond dyw Mike Phillips heb gael ei gynnwys yn y tîm.

Yn dilyn eu gêm agoriadol yn Stadiwm y Mileniwm y penwythnos yma fe fydd Cymru’n teithio i Twickenham i herio’r Saeson yn eu hail gêm grŵp.

Fe fyddan nhw hefyd yn wynebu Fiji yng Nghaerdydd ac Awstralia yn Llundain wrth iddyn nhw frwydro am le yn rownd yr wyth olaf.

Tîm Cymru v Uruguay

Paul James, Scott Baldwin, Samson Lee, Jake Ball, Luke Charteris, Sam Warburton (capt), Justin Tipuric, James King; Gareth Davies, Rhys Priestland, Hallam Amos, Scott Williams, Cory Allen, Alex Cuthbert, Liam Williams

Eilyddion: Ken Owens, Aaron Jarvis, Tomas Francis, Dominic Day, Dan Lydiate, Ross Moriarty, Lloyd Williams, Matthew Morgan