Gorffennodd Swydd Northampton a Morgannwg yn gyfartal ar ddiwrnod ola’r ornest yn ail adran y Bencampwriaeth yn Northampton ddydd Iau.

Ychydig dros 140 o belawdau’n unig oedd yn bosib dros y pedwar diwrnod oherwydd cyfuniad o law, stormydd a golau gwael.

Cafodd Morgannwg eu gwahodd i fatio’n gyntaf yn yr ornest, ond 233 yn unig lwyddon nhw i’w sgorio cyn cael eu bowlio allan wrth i Rory Kleinveldt (5-83) ac Olly Stone (4-73) fanteisio ar yr amodau anodd i’r batwyr.

Unig uchafbwynt y batiad o safbwynt Morgannwg oedd cyfanswm unigol dosbarth cyntaf gorau’r chwaraewr amryddawn David Lloyd o 92.

Wrth ymateb i gyfanswm batiad cyntaf Morgannwg, sgoriodd y Saeson 278, gan gynnwys hanner canred yr un i Adam Rossington (59) a’r wicedwr David Murphy (58 heb fod allan).

Yn dilyn anaf i’r capten dros dro Mark Wallace, Graham Wagg oedd yn arwain Morgannwg am weddill yr ornest ac fe gipiodd yntau bedair wiced am 77.

Fe gafodd ei gefnogi gan Dewi Penrhyn Jones, oedd yn chwarae i Forgannwg mewn gornest dosbarth cyntaf am y tro cyntaf, ac fe gipiodd dair wiced am 55.

Heb fawr o obaith o fuddugoliaeth i’r naill sir na’r llall wrth i’r ornest ddirwyn i ben, penderfynodd Morgannwg gau eu batiad ar 99-3 i gau pen y mwdwl arni.

Wrth i Forgannwg edrych ymlaen at eu gornest Bencampwriaeth olaf yn erbyn Swydd Gaerloyw ym Mryste’r wythnos nesaf, mae’n annhebygol y bydd Wallace yn holliach. Ond fe fydd Jacques Rudolph yn dychwelyd i arwain y sir yn dilyn cyfnod tadolaeth yn Ne Affrica.

Ymateb Morgannwg

Ar ddiwedd yr ornest, dywedodd capten dros dro Morgannwg, Graham Wagg: “Roedd yn bedwar diwrnod rhwystredig, roedd cwpwl o anafiadau a dydy hi ddim yn gêm hawdd i godi’ch hun ar ei chyfer, ond fe wnaethon ni, ac fe wnaethon ni ein gorau ond yn anffodus, roedd y tywydd yn golygu nad oedd unrhyw bosibilrwydd o gael canlyniad.

“Roedd gornest gyfartal ar y gorwel drwyddi draw, roedd trafodaeth ynghylch cael [canlyniad] gornest, roedd ganddyn nhw ddiddordeb, wedyn doedd dim diddordeb ganddyn nhw ac roedd y cyfan yn mynd yn ôl ac ymlaen.

“Roedden ni mewn sefyllfa debyg, roedd nifer o belawdau’n weddill heddiw ac i fod yn deg, roedden ni o dan ychydig bach o bwysau, felly ro’n i’n meddwl eu bod nhw wedi gwneud yn dda iawn o ran y ffordd ddaeth y bois allan a batio.”