Dewi Alter
Dewi Alter sydd yn edrych ymlaen at gêm y penwythnos, wrth i’r Elyrch ddychwelyd o ddyletswydd rhyngwladol
Yn dilyn pedwaredd fuddugoliaeth Abertawe yn olynol yn erbyn Man United mae gobeithion yn uchel wythnos hon wrth i’r Elyrch wynebu Watford oddi cartref yn Vicarage Road.
Dangosodd Garry Monk yn erbyn Man United ei ddawn gyda thactegau a’i barodrwydd i newid y tîm lle bo angen, gydag Abertawe hefyd yn dangos eu bod nhw eisiau’r fuddugoliaeth fwy na’r gwrthwynebwyr. Rydym i gyd yn disgwyl gweld hynny eto dydd Sadwrn yn erbyn Watford.
Mae’r Elyrch wedi sgorio saith gôl hyd yn hyn, a phob un ohonynt yn dod naill ai gan Bafetimbi Gomis (4) neu Andre Ayew (3). Os ydyn ni am ennill penwythnos yma, bydd angen i’r ddau ddyn a ddaeth o Ffrainc am ddim, cofiwch, chwarae ar ei gorau yn erbyn Watford achos fe fyddan nhw’n barod amdanynt.
Enillodd Andre Ayew Chwaraewr y Mis ym mis Awst ar sail ei berfformiadau gwych yn erbyn timau fel Chelsea a Man United, ac yn haeddiannol iawn! Ond dylid nodi, cafodd Bafetimbi Gomis ei enwebu hefyd am y wobr, a gallai prif sgoriwr y gynghrair fod wedi cipio’r wobr hefyd.
Ond yn anffodus doedd hi ddim yn clean sweep i’r Cymry fis yma, gan i Garry Monk golli allan am Reolwr y Mis i Manuel Pellegrini am record berffaith Man City.
Gyda’r egwyl ryngwladol wedi dod i ben mae’r chwaraewyr wedi dod yn ôl at eu clybiau. Roedd sawl chwaraewr rhyngwladol o’r Elyrch ar ddyletswydd fel Ashley Williams, sydd yn parhau i droi pennau gyda’i amddiffyn cyson a gwych i’w dîm a’i wlad, gyda Monk yn dweud ei fod yn un o bedwar amddiffynnwr gorau’r Uwch Gynghrair.
Mae’n debyg bod Ki Sung Yueng wedi teithio 13,000 o filltiroedd i fod nôl yng ngharfan Abertawe yn erbyn Watford, ond ‘sa i’n siŵr os bydd e’n dechrau oherwydd hynny, er yr ymroddiad amlwg i’r tîm.
Mae’n rhaid i ni drafod Jonjo Shelvey. Wythnos hon dywedwyd ar Talksport ei fod yn well na Aaron Ramsey. Dim ots os cytunwch chi ai peidio, mae perfformiadau Shelvey wedi bod yn wych eleni. Chwaraeodd i’r un safon uchel yn erbyn San Marino hefyd. Mae Shelvey yn llawn haeddu cael ei ddewis dros Loegr ar y funud.
Dw i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl o Watford penwythnos yma. Ar bapur dylai’r Elyrch ennill yn hawdd, yn enwedig gan ystyried eu record wych yn erbyn timau sydd newydd ddod i’r gynghrair. Ond dyw pêl-droed ddim yn cael ei chwarae ar bapur. Mae Watford yn hoffi cadw’r bêl ar y llawr a’i phasio, yn debyg iawn i ddynion Monk.
Mae hi’n anodd dewis un chwaraewr i gadw golwg arno’r penwythnos yma gan fod cymaint o chwaraewyr Abertawe wedi bod yn chwarae’n dda. Dwi’n methu edrych heibio Ayew fel dyn sy’n gallu ennill y gêm.