Ar drothwy’r ornest fawr rhwng Cymru ac Israel heno, Jamie Thomas sy’n dadansoddi gobeithion y genedl.

Pwy fasa wedi meddwl ychydig yn llai na thair blynedd yn ôl, ar ôl i Serbia chwalu Cymru o 6-1 yn Novi Sad, y basa pobl ar draws Cymru yn eistedd yn eu tai neu lle bynnag heno yn meddwl am wireddu’r gobeithion o allu cyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2016 cyn diwedd y penwythnos?

Yn gryno, fasa neb wedi disgwyl hyn yn dilyn y gêm honno, ond dyna’r sefyllfa y mae Cymru yn ffeindio’u hunain ynddi wrth i fi deipio’r geiriau yma.

Wedi ymgyrch anhygoel sydd wedi gweld Cymru’n mynd trwy eu grŵp rhagbrofol Ewro 2016 heb golli wedi saith gêm, fasa curo fory yn erbyn Israel yn cadarnhau lle Cymru yn Ffrainc haf nesa’.

Be ydi’r hanes?

Pan gyfarfu’r ddau dîm yma ychydig dros bum mis yn ôl, llwyddodd Cymru i sgubo Israel i’r naill ochr gan ennill o 3-0, diolch i ddwy gôl gan Gareth Bale ac un gan Aaron Ramsey.

Cyn y gêm yna, dywedodd Chris Coleman mai’r gêm honno oedd y gêm fwyaf yn hanes diweddar Cymru. Ac ers ennill, dydy’r garfan ddim wedi edrych yn ôl ar ôl sicrhau canlyniad hanesyddol gan ennill o 1-0 yn erbyn Gwlad Belg, ac eto ddydd Iau diwetha’ gan ennill o 1-0 yng Nghyprus, serch perfformiad eitha gwan ar y cyfan.

Y peth eironig, rwbath sydd yn gallu gwneud i chi feddwl bod rhywbeth yn y dŵr, ydi’r ffaith fod Cymru’n fuddugol yn erbyn Israel yn y rowndiau terfynol y tro diwethaf wnaethon nhw gyraedd rowndiau terfynol twrnament mawr 57 mlynedd yn ôl.

Bydd hynna’n ysbrydoli’r cefnogwyr yn bendant, ond mae ’na angen o hyd am un perfformiad mawr arall gan Gymru i groesi’r llinell.

Ydi’r garfan hefo’r gallu?

Wrth gwrs. Mae ’na rheswm pam dydyn nhw’m wedi colli eto, ac i’r bobl sydd yn deud bod yr anafiadau am darfu ar baratoadau Cymru, yndi maen nhw wedi ychydig, ond chwaraeodd Cymru yn erbyn Bosnia – tim sydd cystal ag Israel – flwyddyn yn ôl hefo dwywaith y nifer o anafiadau sydd gennon nhw rwan, a hefo llai o fomentwm sydd gennon nhw rwan, a nathon nhw lwyddo i gael pwynt allan o’r gêm honno.

Mae ’na broblem yng nghanol y cae wrth gwrs hefo Joe Ledley, Joe Allen ac Emyr Huws i gyd allan, ond llwyddodd Andy King a David Edwards i lenwi’r bwlch wnaeth y ddau Joe ei adael yn erbyn Cyprus, ac mae ’na beth positif iawn i Gymru wrth i David Vaughan ddychwelyd i’r garfan – mae o’n eitha siwr o ddechra, neu pam fasech chi’n dod ag o nôl I fewn? Felly o leiaf mae ’na ddewis gan Gymru yn yr adran yna rwan.

Mae gweddill y garfan mor gryf ag y mae hi wedi bod erioed. Dydi’r tîm ddim wedi ildio’r gôl o chwarae agored hyd yn hyn yn yr ymgyrch. Dyna pa mor cryf maen nhw’n gallu bod yn amddiffynnol, a hefo chwaraewyr fel Bale a Ramsey yn mynd i fyny i ochr arall y cae i ymosod, mae gennych chi gyfle da o hyd o sgorio.

Dydi’r sefyllfa ddim yn berffaith o ran presenoldeb, wrth gwrs. Basa pawb yn hapusach hefo Allen a Ledley yna – roedd o’n syndod i bawb gymaint oedd Cymru’n gweld eu heisiau nhw yn erbyn Cyprus – ond heblaw am hynny, mae’r tîm mewn sefyllfa eitha da.

Israel wedi dysgu gwersi

Mae’n anodd deud os ydyn nhw wedi dysgu gwersi achos mae’n siwr o fod yn dîm reit gwahanol i’r un nath chwarae yn erbyn Cymru yn Haifa ym mis Mawrth.

Mae tîm Eli Guttman yn dioddef o chwech anaf, ychydig ohonyn nhw i chwaraewyr allweddol hefyd fel Lori Refaelov ac Omer Damari, felly fe fydd o’n dîm gwahanol iawn i’r un welodd cefnogwyr Cymru sbel yn ôl.

Wrth siariad hefo newyddiadurwyr o Israel, dydyn nhw hyd yn oed ddim yn gwybod yn iawn pa dîm maen nhw am chwarae, yn hollol groes i Gymru, hefo’r posibilrwydd fod Israel am chwarae 4-3-3, 4-4-2 neu 5-3-2.

Y safle allweddol yn y gêm yma i Israel fydd canol y cae, yn enwedig hefo’r anafiadau mae Cymru wedi’u dioddef yn y safle yna. Disgwylir bod Guttman am ddewis tri chwaraewr canol cae corfforol iawn – Nir Bitton, Beram Kayal a Bibras Natkho – un ohonyn nhw hefo profiad helaeth o’r ffordd gorfforol, Brydeinig o chwarae, a’r llall hefo profiad o chwarae mewn timau corfforol yn Ewrop.

Gallai hyn achosi problemau i Gymru yn sicr, ond fe fydd pawb yn bendant yn hapus iawn i weld Vaughan yn dychwelyd i’r garfan, ‘ella i helpu atal hynny.

Eran Zahavi ydi’r un i’w wylio o ran creu anawsterau i amddiffynwyr Cymru. Mae nifer o’u newyddiadurwyr a’u cefnogwyr nhw yn ei alw’n Gareth Bale Israel ond yn ddiweddar dydy o ddim wedi perfformio ar ei orau i’r garfan genedlaethol.

Casgliadau

Mae’n rhy agos i’w darogan yn fy marn i. Mae’r ochr besimistaidd o fod yn gefnogwr Cymru drwy’r dyddiau anodd wastad yn dod i’r amlwg yr adeg yma.

Bydd Israel bendant yn barod am y gêm yma. Dydyn nhw’m eisio i Gymru fod yn dathlu wedi’r gêm, fel y dywedodd Ben Haim wrth y wasg ddydd Sadwrn. Ond hefo dros 30,000 o Gymry yn y stadiwm yn eu cefnogi, fe fydd gan Gymru bob dim sydd ei angen arnyn nhw i ennill y gêm. Bydd o’n anodd, serch pa mor hawdd oedd o’n edrych yn Haifa’r tro diwetha’, ond mae gan Gymru ddigon i allu croesi’r llinell maen nhw wedi bod yn trio’i chroesi ers 57 o flynyddoedd, a chyrraedd twrnament arall – Ewro 2016.

Jamie Thomas