David Willams
Mae Cymdeithas Pêl-droed Cymru wedi talu teyrnged i David Willams oedd wedi bod yng ngofal crysau’r tîm cenedlaethol ers 1998 .

Bu farw David Williams, neu Dai fel yr oedd yn cael ei adnabod, yn oriau man y bore yn dilyn salwch byr.

Meddai’r gymdeithas mewn datganiad bod eu meddyliau nhw gyda’r teulu yn ystod y “cyfnod trist” yma.

Dywedodd Rheolwr Offer Cymdeithas Pêl-droed Cymru, David Griffiths: “Roedd hi’n anrhydedd gweithio gyda Dai. Nid yn unig oedd o’n gydweithiwr, ond hefyd yn ffrind.

“Roedd Dai yn ŵr bonheddig a doedd gan neb air drwg i’w ddweud amdano. Mae ein meddyliau gyda’i deulu.”

Cyn ymuno a Chymdeithas Pêl-droed Cymru, treuliodd Dai y rhan helaeth o’i yrfa gyda chlwb Casnewydd lle’r oedd yn chwaraewr, hyfforddwr, rheolwr dros dro ac un o gyfarwyddwyr y clwb.