Wilfried Bony
Mae ymosodwr Abertawe Wilfried Bony yn agos at sicrhau trosglwyddiad i Man City.

Yn ôl adroddiadau gan Sky Sports, fe fydd rhaid i bencampwyr Uwch Gynghrair Lloegr dalu £30 miliwn os ydyn nhw am ddenu ymosodwr y Côte d’Ivoire i stadiwm Etihad.

Dechreuodd y clybiau drafod telerau’r trosglwyddiad ddoe, ac mae disgwyl i’r trafodaethau barhau heddiw.

Cafodd Bony ei brynu gan yr Elyrch o Vitesse Arnhem am £12.5 miliwn yn 2013, ac fe allai’r trosglwyddiad olygu elw o £17.5 miliwn i’r Cymry.

Mae Bony wedi sgorio naw gôl mewn 20 o gemau yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn.