Ched Evans pan oedd yn chwarae i Sheffield United
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi dweud ei fod yn disgwyl i unrhyw glwb pêl-droed sy’n ystyried arwyddo’r treisiwr Ched Evans i “ystyried yn ddwys iawn” cyn gwneud penderfyniad.

Daw ei sylwadau wrth i glwb Oldham Athletic gynnal trafodaethau ynglŷn ag arwyddo’r chwaraewr 26 oed, sydd wedi treulio hanner ei ddedfryd yn y carchar am dreisio merch mewn gwesty yn y Rhyl yn 2012.

Mae’n debyg bod Oldham wedi ail-ystyried y penderfyniad ar ôl i 30,000 o bobol arwyddo deiseb yn gwrthwynebu gadael iddo ddychwelyd yn ôl i’r cae. Tra bod y clwb wedi dweud na fyddan nhw’n gwneud cyhoeddiad am y tro, nid ydyn nhw wedi diystyru arwyddo Evans.

‘Arwyr’

Dywedodd llefarydd swyddogol David Cameron nad oedd safbwynt y Prif Weinidog wedi newid ers adroddiadau bod Sheffield United yn ystyried croesawu Evans yn ôl i’r clwb.

Ond fe bwysleisiodd fod y Prif Weinidog yn credu bod chwaraewyr pêl-droed yn cael eu hystyried fel arwyr ac y dylai unrhyw glybiau neu gyflogwyr “ystyried eu penderfyniadau yn ofalus iawn.”

“Ar ddiwedd y dydd, y cyflogwr fydd yn penderfynu, ond mae’r Prif Weinidog yn credu bod pêl-droedwyr yn cael eu hedmygu ac mae’n siŵr y bydd clybiau  neu gyflogwyr yn ystyried eu penderfyniadau yn ofalus iawn,” meddai’r llefarydd.

Yn y cyfamser, mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Manceinion wedi annog Oldham i beidio ag arwyddo Ched Evans ac un o brif noddwyr y clwb hefyd wedi bygwth torri cysylltiad gyda nhw os yw’n cael ei arwyddo.

Ni fydd clwb Oldham yn gwneud sylw nes eu bod wedi cwblhau trafodaethau ynglŷn ag arwyddo Ched Evans.