Rhys Priestland
Mae maswr Cymru a’r Scarlets, Rhys Priestland, wedi arwyddo cytundeb newydd gyda chlwb Caerfaddon, cyhoeddwyd heddiw.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran clwb y Scarlets y bydd y chwaraewr 27 oed yn gadael i chwarae yn uwch-gynghrair Lloegr ar ddiwedd y tymor – wedi bron i ddeng mlynedd yn Llanelli.

Mae Rhys Priestland wedi ennill 32 o gapiau dros ei wlad yn ystod ei yrfa ryngwladol, ond ar hyn o bryd mae’n ail ddewis yn safle’r maswr ar ôl Dan Biggar o’r Gweilch yng ngharfan Cymru.

Dywedodd Rhys Priestland wrth gyhoeddi ei ymadawiad: “Rydw i wedi cael amseroedd da a rhai isel gyda’r Scarlets.

“Mae’r Scarlets wedi bod yn gartref i mi am nifer o flynyddoedd, a dyma’r oll rwy’n ei adnabod fel chwaraewr proffesiynol.

“Rwyf am fethu’r clwb ac mi fydda i’n gadael ffrindiau da y tu ôl i mi ond mae ffordd bell i fynd y tymor hwn.”

Arwyddo

Bydd Priestland yn cystadlu gyda maswr 21 oed Caerfaddon, George Ford, am le yn y tîm.

Mae Caerfaddon hefyd wedi arwyddo’r chwaraewr o dîm Glasgow, Niko Matawalu, ac yn cael eu cysylltu â Duane Vermeulen o Dde Affrica.