Ched Evans
Mae Oldham wedi awgrymu nad ydyn nhw wedi diystyru arwyddo’r treisiwr Ched Evans.
Mae cyn-ymosodwr Sheffield United a Chymru wedi cael ei gysylltu a’r clwb wrth iddo geisio dychwelyd i bel-droed ar ol treulio hanner ei ddedfryd yn y carchar am dreisio merch 19 oed mewn gwesty yn y Rhyl.
Yn dilyn cyfarfod o fwrdd rheoli Oldham dywedodd y prif weithredwr Neil Joy mewn datganiad y prynhawn ma y byddai’r bwrdd yn parhau i “gynnal trafodaethau” gyda Chymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol (PFA).
Dywedodd Joy nad oedd Oldham Athletic ar hyn o bryd yn gwneud “unrhyw gyhoeddiad swyddogol mewn cysylltiad a honiadau yn ymwneud a Ched Evans.”
Nid oedd y clwb yn fodlon gwneud unrhyw ddatganiad pellach ar hyn o bryd.
Mae deiseb ar-lein sy’n gwrthwynebu’r penderfyniad wedi cael ei arwyddo gan tua 20,000 o bobl ers i’r newyddion dorri ac mae un o brif noddwyr Oldham Athletic wedi bygwth torri cysylltiad gyda’r clwb os yw’n arwyddo Evans.
Dywedodd Craig Verling, cyfarwydd Verlin Rainwater Solutions, y byddai’r cwmni yn dod a’i gysylltiad gyda’r clwb i ben petai Evans yn ymuno a Oldham.