Ched Evans pan oedd yn chwarae i Sheffield United
Mae un o brif noddwyr Oldham Athletic wedi bygwth torri cysylltiad gyda’r clwb os yw’n arwyddo’r pêl-droediwr Ched Evans.

Roedd disgwyl i’r treisiwr ymuno gyda’r clwb Adran Gyntaf heddiw ond mae deiseb ar-lein sy’n gwrthwynebu’r penderfyniad wedi cael ei arwyddo gan tua 20,000 o bobl ers i’r newyddion dorri.

Dywedodd Craig Verling, cyfarwydd Verlin Rainwater Solutions, y byddai’r cwmni yn dod a’i gysylltiad gyda’r clwb i ben petai Evans yn ymuno a Oldham.

Dywedodd: “Mae’r clwb yn gwybod beth yw ein barn ni, a hynny ydy, os ydyn nhw’n arwyddo Ched Evans neu’n caniatáu iddo hyfforddi fe fyddwn ni allan drwy’r drws.”

Ychwanegodd: “Mae’n ffynonellau ni wedi ei gwneud yn glir y bydd yn hyfforddi neu’n arwyddo i’r clwb yr wythnos hon ac nid yw hynny’n rhywbeth rydym ni eisiau bod yn gysylltiedig ag ef.”

Nid oedd Evans yn rhan o’r grŵp oedd wedi cyrraedd Boundary Park bore ma ar gyfer sesiwn hyfforddi.

Bwrdd rheoli yn trafod

Mae bwrdd rheoli Oldham yn cynnal cyfarfod ar hyn o bryd i drafod y mater ac mae disgwyl cyhoeddiad bnawn fory.

Yn ôl adroddiadau, mae Oldham yn ail-ystyried eu penderfyniad dadleuol i roi cytundeb i Evans, 26, yn sgil y feirniadaeth.

Cafodd Evans ei ryddhau o’r carchar ym mis Hydref y llynedd ar ôl treulio hanner ei ddedfryd o bum mlynedd dan glo am dreisio merch 19 oed mewn gwesty ger Y Rhyl yn 2011. Mae wedi mynnu ei fod yn ddieuog.

Mae gobeithion Evans i ddychwelyd i fyd pêl-droed wedi arwain at wahaniaeth barn, gyda Chymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol (PFA) yn dadlau ei fod yn haeddu’r cyfle i barhau gyda’i yrfa ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar, tra bod cefnogwyr pêl-droed a grwpiau menywod yn dweud na ddylai ddychwelyd i rôl mor ddylanwadol o fewn y gêm.

Cafodd cynnig iddo hyfforddi gyda’i gyn glwb Sheffield United ei dynnu nôl yn dilyn gwrthwynebiad gan gefnogwyr a noddwyr y clwb.