Yw Rhys Hartley’n mynd rhy bell wrth ddarllen llyfr am bêl-droed rhyngwladol yn Liechtenstein?
Dwi wedi hen arfer ar bobol yn dweud wrtha i nad yw fy angerdd am bêl-droed yn ‘normal’.
Yn amlwg, dwi wedi cwestiynu hynny fy hun sawl gwaith, yn enwedig ar daith hir adref o ryw ddinas anghysbell wedi gweld fy nhîm yn colli yn yr oerfel a’r glaw. Ond dwi wastad wedi mynd nôl am fwy’r wythnos wedyn.
Pan o’n i’n saith, dwi’n cofio mynd i’r ysgol y bore ar ôl colli oddi cartref i Crewe yn ‘replay’ trydedd rownd Cwpan yr FA ar gae oedd yn fwy addas ar gyfer hoci iâ na phêl-droed, a bu pawb yn yr ysgol yn cwestiynu fy iechyd meddwl i a’n rhieni am nad oeddem yn difaru gwneud y siwrne hir (a’r diffyg cwsg)!
Wedi’r cwbl, roedd Crewe yn dîm mawr i ni gefnogwyr Caerdydd fach a do’n ni heb wneud ffyliaid o’n hun.
Bob tro mae rhywun wedi awgrymu bod y ffordd yma o fyw yn od neu fod y ‘gêm brydferth’ yn debyg i unrhyw hobi arall, hobïau ‘dy’n ni’n troi’n trwynau atyn nhw, dwi wedi bod yn gadarn o’r farn fod pêl-droed yn wahanol – bod yr angerdd, y cysylltiad, y mwynhad yn gwbl wahanol i unrhyw beth arall.
Does dim modd cymharu, meddaf, gan os nad y’ch chi’n dilyn, ‘dych chi ddim yn deall.
Teithio a gwylio
Ers i mi ddechrau gyrru, dwi wedi bod yn mynd i gemau lle does dim cysylltiad ‘da fi i’r timoedd sy’n chwarae.
Mae hyn efallai gam yn rhy bell i’r bobl hynny sy’ ddim yn deall pêl-droed a hyd yn oed rhai cefnogwyr brwd hefyd. Wedi symud i Lundain, roedd hyn yn ffordd synhwyrol o ffeindio fy nhîm newydd ac mae’r arfer wedi parhau.
Ers plentyndod, mae Dad wedi annog gwylio pêl-droed a theithio a dwi’n mwynhau cyfuno’r ddau.
Wrth deithio fis d’wetha es i wylio gemau yn uwch adran Croatia a phedwaredd gynghrair y Weriniaeth Siec.
Wrth ddilyn Cymru dwi wedi bod i lefydd gwych a gwyllt megis chweched dref Armenia, Abovyan, sy wedi creu argraff fawr arnaf. Trwy hwn, dwi wedi gwneud sawl ffrind da ac maen nhw’n amlwg yn mwynhau’r un fath o beth â fi.
Yn awr, mae Twitter wedi helpu er mwyn i mi allu amgylchynu’n hun gyda phobl o’r un meddylfryd. Dyw hi’n sicr ddim yn teimlo’n rhyfedd mynd i wylio Barnet un nos Fawrth a Dartford yr wythnos wedyn pan bod pobl eraill yn mynd i Alfreton ac yna Matlock.
I fi, mae hi’n apelio’n fwy nag aros yn y fflat er mwyn gwylio’r bennod ddiweddaraf o Coronation Street, fel y mae sawl ffrind i mi yn y brifysgol yn dewis gwneud.
Llenyddiaeth am Liechtenstein
Wythnos d’wetha, fodd bynnag, sylweddolais efallai bod ‘na sylwedd i sylwadau’r rheiny sy’n meddwl fy mod i’n wyllt.
Wedi wythnos yn ymgyrchu yng Nglasgow dros bleidlais ‘Ie’ ar gyfer y refferendwm, teithiais i Dumfries er mwyn gweld Queen of the South yn chwarae Hibs.
Mae rheswm da dros hyn, wir. Mae un o’m ffrindiau gorau yn cefnogi Hibs, a’i rieni yn byw nid nepell o Dumfries. Cyfle gwych i’w weld e a gweld ‘mbach o bêl-droed.
Bu’n rhaid i mi deithio yn ôl i Glasgow wedi’r gêm er mwyn dal bws yn ôl i Gaerdydd. Gyda chwpwl o oriau i ladd, ffeindiais dafarn er mwyn ymlacio.
Mae ffrind i fi yn rhannu fy mrwdfrydedd am bêl-droed hefyd a dwi wedi benthyg llyfr ganddo; llyfr am bêl-droed tîm cenedlaethol Liechtenstein wedi ei sgwennu gan Sais.
‘Pam ddiawl ‘set ti moyn darllen hwnna?’ holodd un ffrind. Eto, ro’n i’n hapus i ymateb gyda fy hyder arferol. ‘Gall fod yn ddiddorol ac rwy’n licio pêl-droed’.
Dechreuais ddarllen ac ystyried a oedd y boi ‘off ei ben’ fel mae pobol wedi dweud amdana i, neu yn foi arferol fel wy’n meddwl ohonof fi’n hun. Wrth gwrs, dwi’n cenfigennu o’r boi am allu gwneud bywoliaeth mas o wylio pêl-droed a theithio.
Too much?
Wrth i mi ystyried hyn, newidiodd y gân ar y Jukebox. Luther Van Dross yn canu ‘Never Too Much’. Clasur o gân ond un dwi’n ei hadnabod yn well o’r teras yn dilyn Clapton.
Yn amlwg, fe ganais i fi’n hun yn dawel bach ond bu’n rhaid i mi wir ymdrechu er mwyn peidio gwaedu ‘Sammy Naylor, Sammy Naylor, Sammy Naylor!’ (yn lle ‘Never too much, never too much, never too much’).
Wedi i’r gân orffen, setlais fy hun wedi’r rhyddhad o adrenalin a syllais o’m llyfr at fy niod.
Dw i’n ugain oed, mewn tafarn ar ben fy hun ar nos Sadwrn, wedi teithio dros awr i wylio gêm rhwng dau dîm sy’ da fi ddim cysylltiad gyda, mewn cynghrair does fawr o ots ‘da fi amdani, yn darllen llyfr am bêl-droed yn un o wledydd lleia’r byd ac yn gorfod ymdrechu i stopio’n hun rhag bloeddio enw chwaraewr amaturaidd yn y dafarn.
Ro’n i wir wedi’n syfrdanu gyda pha mor wallgo’ roedd hynny oll yn swnio.
Felly ai gwallgof, angerddol neu jyst normal ydw i? Dwi’n sicr yn ddigon hapus gyda fy mywyd a does dim bwriad ‘da fi i newid.
I fod yn deg, fe wnaeth un o’m ffrindiau sy’n rhannu tŷ a mi sylw diddorol: ‘Mae’n wych bod ‘da ti gymaint o angerdd am rywbeth ond paid â’i adael i effeithio’n wael ar bobol eraill.’
Dw i’n nabod digon o bobl sydd wedi methu priodasau a phartïon er mwyn mynd i’r pêl-droed.
Efallai bod hynny’n eithriadol, ond pwy a ŵyr beth wna i … yn enwedig os yw Cymru’n llwyddo i gyrraedd twrnament mawr; alla i ddim dychmygu dim byd yn fy stopio rhag mynychu’r ffeinals!