Y sgwad
Mae capten tîm merched Cymru Jess Fishlock wedi mynnu fod rhaid i’r tîm fod yn “ddisgybledig” os ydyn nhw am drechu Lloegr heno yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Yr ornest heno yn erbyn yr hen elyn yw gêm olaf ond un Cymru yn eu hymgyrch i geisio cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yng Nghanada’r flwyddyn nesaf.
Mae gan y tîm siawns fathemategol o hyd o ennill y grŵp petaen nhw’n curo Lloegr, ond fe fyddai pwynt yn ddigon i gadw’u gobeithion o gyrraedd y gêmau ail gyfle yn fyw.
Ac mae Jess Fishlock yn cyfaddef fod angen cadw’r gobeithion hynny’n fyw yn hytrach na chwarae’n wyllt yn erbyn Lloegr a mentro colli.
“Mae’n rhaid i ni fod yn ddisgybledig yn hyn a pheidio â rhuthro i mewn,” meddai cyn y gêm heno. “Does dim angen i ni.
“Mae’n eithaf amlwg y bydd Lloegr yn cael y pwynt maen nhw ei angen yn un o’r ddwy gêm olaf yma [maen nhw’n gorffen yr ymgyrch yn erbyn Montenegro sydd ar waelod y grŵp] felly mae’n rhaid i ni gadw ein ffocws a cheisio cipio’r ail safle a lle ail gyfle gobeithio.”
Torf sylweddol
Mae disgwyl y bydd torf o tua 2,500 yn Stadiwm Dinas Caerdydd i wylio’r gêm heno, ac mae’r capten yn cyfaddef y bydd hi’n braf cael chwarae o flaen cymaint o gefnogwyr.
“Mae’n wych y byddwn ni’n chwarae o flaen torf record ar gyfer gêm ferched, ond mae’n rhaid i ni ei thrin fel unrhyw gêm ragbrofol arall,” mynnodd Fishlock. “Mae Lloegr yn dîm da iawn ac maen nhw’n gallu peri problemau i unrhyw dîm yn y byd.”
Mae ymosodwraig Cymru Natasha Harding yn disgwyl gweld llawer o wynebau cyfarwydd yn y dorf honno heno.
“Fe fydd e’n achlysur gwych a fi’n credu y bydd rhan fwyaf o’r dorf yn perthyn i mi, gan fod fy mam wedi gofyn am lwyth o docynnau!” meddai Harding.
Mathemateg y grŵp
Ar hyn o bryd mae Cymru’n ail yn y grŵp, dri phwynt o flaen yr Wcrain, gan olygu pe bai Cymru’n colli i Loegr a’r Wcrain wedyn yn trechu Twrci fe fyddai’r ddau dîm yn gyfatal yn mynd i’r gêm olaf.
Mae’r ddau wedyn yn herio’i gilydd yn y gêm olaf yn Lviv, Wcrain, gêm fydd yn penderfynu pwy ddaw’n ail yn y grŵp.
Fodd bynnag, gan mai dim ond pedwar o’r saith tîm sydd yn gorffen yn ail yn y grwpiau Ewropeaidd sydd yn cyrraedd y gêmau ail gyfle, fe fydd yn rhaid i Gymru geisio gorffen gyda’r nifer ucha’ o bwyntiau posib.