Iolo Cheung
Iolo Cheung oedd ag un llygad ar wrthwynebwyr ymgyrch nesaf Cymru
Roedd y rhan fwyaf o bobl a arhosodd fyny nes 1.00 y bore i wylio diwedd gêm yr Ariannin v Bosnia-Herzegovina siŵr o fod wedi gwneud hynny gan obeithio gweld doniau Lionel Messi a’i griw.
Ond roedd gen i lygad hefyd ar sut yr oedd eu gwrthwynebwyr o ddwyrain Ewrop yn gwneud hefyd – wedi’r cyfan, fe fydd Cymru’n herio Bosnia yn ein grŵp rhagbrofol Ewro 2016 yn yr hydref.
Colli 2-1 oedd hanes y Bosniaid, ond roedd digon yn y gêm agoriadol hon i awgrymu y gallwn nhw dal ddianc o Grŵp F, a pheri digon o drafferthion i Gymru ym mis Hydref hefyd.
Amddiffyn tynn
Iawn, doedd ildio gôl ar ôl dwy funud ddim yn argyhoeddi’n dda iawn i’r Bosniaid, a hynny yn erbyn tîm o safon yr Ariannin.
Ond roedd hi’n gôl anlwcus i’w hildio, gyda chic rydd o’r chwith yn cael cyffyrddiad bychan oddi ar yr Archentwr Marcos Rojo cyn adlamu oddi ar amddiffynnwr Bosnia Sead Kolasinac i’w rwyd ei hun.
Ar ôl hynny fe lwyddodd Bosnia i gyfyngu’r Ariannin i hanner-cyfleoedd, gan amddiffyn yn gul a gosod eu holl amddiffynwyr o fewn neu ar ymyl eu cwrt cosbi.
Roedd hyn yn gadael digonedd o le ar yr asgell i’r Ariannin roi’r bêl, ond gydag ymosodwyr byr a chwim fel Messi ac Aguero yn chwarae doedd dim llawer o bwynt croesi’r bêl ble byddai amddiffynwyr Bosnia’n medru delio â hi.
Yn ogystal, roedd y ddau yna ac Angel di Maria yn awyddus i symud i mewn i’r canol â’r bêl, ble roedden nhw wedyn yn rhedeg i mewn i ormod o amddiffynwyr.
Gallai ymosodwr â phresenoldeb fel Sam Vokes gynnig opsiwn gwahanol i Gymru pan fyddwn nhw’n wynebu Bosnia, ond yn anffodus fe fydd yr ymosodwr yn methu’r gêm ym mis Hydref ag anaf.
Meddiant da
Doedd Bosnia ddim chwaith yn swil am gadw meddiant, ac roedden nhw’n gwneud hynny’n ddigon cyfforddus drwy gydol y gêm gyda’r chwaraewyr ar yr asgell yn ymestyn y chwarae unwaith roedd ganddyn nhw’r bêl.
Fodd bynnag, yn erbyn tîm â gallu ymosodol yr Ariannin roedden nhw’n gyndyn o wthio gormod o chwaraewyr ymlaen, ac fe ddaeth eu cyfleoedd gorau nhw o beli hir lletraws dros dop yr amddiffyn.
Edin Dzeko oedd y prif darged ar gyfer y rhain, ond roedd y chwaraewyr canol cae ymosodol Senad Lulic a Miralem Pjanic hefyd yn fygythiad.
Fe chwaraeodd Bosnia siâp 4-2-3-1 yn y gêm neithiwr, yn hytrach na’r 4-4-2 yr oedden nhw’n ei ddefnyddio yn y gemau rhagbrofol, ac roedd hyn yn eu cynorthwyo i gadw meddiant yn well hefyd.
Roedd hefyd yn golygu fod chwaraewyr canol cae fel Muhamed Besic, a gafodd gêm dda iawn, yn medru canolbwyntio ar ei rôl amddiffynnol a cheisio ffrwyno Messi.
Roedd y ddau dîm yn ddigon hapus i adael i’r lleill gadw meddiant yn eu hanner eu hunain, ond efallai na fydd Bosnia mor hael ar Gymru pan fyddwn nhw’n ceisio gwneud yr un peth.
Bygythiad ymosodol
Hyd yn oed pan aeth Bosnia 2-0 ar ei hôl hi wnaethon nhw ddim rhoi’r ffidil yn y to, gan ddod a’r ymosodwr Vedad Ibisevic ymlaen i ymuno â Dzeko a chwarae dau yn y blaen unwaith eto.
Ac fe weithiodd y penderfyniad, gydag Ibisevic yn sydyn yn creu trafferth ychwanegol i amddiffyn yr Ariannin oedd wedi symud nôl i chwarae gyda dau yn hytrach na thri amddiffynnwr canol.
Manteisiodd ar bêl wych gan Lulic a llithro’r bêl rhwng coesau Sergio Romero bum munud o’r diwedd i roi gobaith i’w dîm, ac mae’n amlwg fod ganddo ddealltwriaeth â Dzeko.
Gyda Pjanic yn fygythiad o ganol cae hefyd, bydd hi’n bwysig i Gymru wneud yn siŵr fod ganddyn nhw ddigon o chwaraewyr fydd yn fodlon gwneud y gwaith amddiffynnol o gadw llygad arnynt hefyd.
Gôl wefreiddiol
Gôl lwcus oedd un cyntaf yr Ariannin, ond doedd dim lwc o’r fath am eu hail wrth i’r dewin Lionel Messi ddawnsio heibio i bedwar amddiffynnwr a tharo ergyd hyfryd i’r gornel.
Dechreuodd ar yr asgell dde cyn manteisio ar ychydig o fwlch ar ymyl y cwrt cosbi i lithro heibio i’r amddiffynwyr – ddim yn annhebyg i’r modd y mae Gareth Bale yn gwneud i Gymru.
Roedd Messi wedi cael gêm dawel hyd hynny, ac i’w weld yn rhwystredig wrth iddo gael ei gau lawr o hyd gan amddiffyn Bosnia.
Ond un cyfle oedd angen arno, ac fe fydd Cymru’n gobeithio y bydd Bale (os yw’n ffit, wrth gwrs) yn medru manteisio yn yr un modd yng Nghaerdydd ym mis Hydref.
Mae gwrthwynebwyr eraill Cymru yn eu grŵp Ewro 2016, Gwlad Belg, yn dechrau eu hymgyrch Cwpan y Byd nos Fawrth yn erbyn Algeria.