Llywelyn Williams
Y frwydr ar y brig yn Anfield sy’n dwyn sylw Llywelyn Williams …
Dw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at y penwythnos hwn. Mae tyrrau o gemau diddorol ar y gweill yn sgil tymor hynod o gyffrous ar y top ac ar waelod y gynghrair.
Mae Abertawe yn croesawu Aston Villa i’r Liberty, gyda’r gobaith o sicrhau diogelwch yn y gynghrair gyda buddugoliaeth bnawn fory, a Chaerdydd yn ceisio bachu tri phwynt hynod o werthfawr yn erbyn Sunderland oddi cartref.
Bydd y camerâu a’r cyfryngau wrth gwrs yn canolbwyntio ar gêm gyntaf Ryan Giggs fel rheolwr Manchester United. Maen nhw dal yn anelu am le yng Nghynghrair Ewropa y tymor nesaf i orffen ar nodyn cadarnhaol, er gwaethaf yr anawsterau dros ymadawiad David Moyes a’u canlyniadau siomedig yn ystod y tymor.
Ond yn sicr i gefnogwyr Lerpwl a Chelsea, ac i rai sy’n dilyn hynt a helynt y ras am y gynghrair, mae’r gêm rhwng Lerpwl a Chelsea yn mynd i fod yn gracyr o ornest draw yn Anfield ddydd Sul.
Bydd Lerpwl yn gobeithio cynyddu’r bwlch rhyngddyn nhw a Chelsea a Man City, gan geisio rhoi diwedd ar gyfle tîm Jose Mourinho o ennill y tlws yn y broses.
Tîm gwan gan Chelsea?
Y sïon ar y funud yw bod Chelsea am geisio gorffwyso eu chwaraewyr allweddol ar gyfer yr ail gymal rownd cynderfynol Cynghrair y Pencampwyr yn erbyn Atletico Madrid nos Fercher, gan olygu na fydd eu holl sylw ar y gêm yn Anfield.
Ai arwydd o ddiffyg uchelgais am y gynghrair yw hyn gan Chelsea, ynteu chwarae gemau meddyliol yn erbyn Lerpwl yw hyn?
Yn sicr dwi’n credu fod carfan Chelsea yn rhy fawr i aberthu un gêm o flaen y llall, er mod i’n meddwl y bydd yn rhaid iddyn nhw wneud newidiadau yn eu carfan Chelsea er mwyn wynebu’r heriau sydd o’u blaenau.
Ond nid wyf yn credu o bell ffordd y bydd Mourinho’n iselhau’r gêm yn Anfield, yn enwedig o ystyried yr hanes sydd tu ôl i’r gemau mawr rhwng y ddau dîm yn y gorffennol.
Cam mawr arall i Lerpwl
Mae’r sefyllfa’n edrych yn addawol iawn i Lerpwl, gyda John Terry a Peter Cech allan ohoni yn sgil anafiadau ym Madrid, a Ramires hefyd wedi derbyn gwaharddiad am weddill y tymor yn sgil pwniad ar Sebastian Larsson ddydd Sadwrn diwethaf.
Mae colli hen ben John Terry yn ergyd drom i Chelsea mewn gêm bwysig fel hon, yn enwedig o ystyried fod eu hamddiffyn yn un o rhai gorau’r gynghrair. Mae partneriaeth Terry a Gary Cahill wedi aeddfedu i fod yn bartneriaeth soled iawn. Diddorol fydd gweld sut y bydd Cahill yn ymdopi heb Terry yn y cefn.
Mi fydd Daniel Sturridge yn gobeithio dychwelyd i’r garfan i wynebu’i hen glwb gan obeithio rhwbio halen ar y briw i amddiffyn Chelsea. Ond eto, er yr holl goliau mae Lerpwl wedi sgorio eleni, mae rhai adegau o’r tymor ble nad ydynt wedi gallu gorffen timau i ffwrdd yn gynt (fel Man City a Norwich yn y pythefnos diwethaf) a dydyn nhw heb fod digon clinigol o flaen y gôl ar adegau.
Un chwaraewr y bydd Lerpwl yn ei golli o bosib yw Jordan Henderson. Chwaraewr sydd yn gwneud y gwaith caled yn y canol gyda’i basio, ei daclo a’i egni di-dor wrth redeg o gwmpas y cae yn cwrso’r bêl.
Ond dwi’n meddwl fod y system yng nghanol y cae ac wrth ymosod yn reit soled gyda Joe Allen a Steven Gerrard, gan adael i Coutinho a Sterling ar yr asgell, a Sturridge a Suarez wneud yr ymosod.
Mae Man City yn wynebu Crystal Palace oddi cartref ar yr un pryd brynhawn dydd Sul. Mae Crystal Palace wedi cael rhediad arbennig yn ddiweddar, yn enwedig buddugoliaethau anferthol yn erbyn Chelsea gartref ac Everton oddi cartref.
A all Palace greu sioc arall yn Selhurst Park? Mi fydd Lerpwl yn gobeithio am ffafr enfawr yn sicr.
Clybiau Cymru dal ddim yn saff
Os bydd Abertawe’n ennill fory yn erbyn Aston Villa, mae gobaith y byddwn nhw’n gyfforddus hyd ddiwedd y tymor. Mi fydd tri phwynt arall yn eu codi i 39 o bwyntiau gyda dwy gêm i fynd. Digon cyfforddus ‘sŵn i’n feddwl.
A Chaerdydd? Yn fathemategol, byddai pwynt yn erbyn Sunderland ddydd Sul yn ddigon da iddynt barhau â’u hymdrech i osgoi disgyn i’r Bencampwriaeth, gan fod Sunderland wedi codi gêr yn sylweddol yn ddwy gêm ddiwethaf.
Ond wrth gwrs, mi fuasai tri phwynt yn hynod ddefnyddiol i Gaerdydd os yw’r canlyniadau eraill yn mynd o’u plaid. Mae’n help garw i Gaerdydd fod Norwich yn wynebu Man Utd oddi gartref yr un penwythnos.