Bydd Caerdydd yn teithio i Sunderland ddydd Sul ar gyfer gêm sy’n allweddol i’r ddau dîm.
Mae tîm y brifddinas wedi sicrhau pedwar pwynt gwerthfawr yn eu dwy gêm ddiwethaf, a thair gêm yn weddill i sicrhau y byddan nhw’n chwarae yn yr Uwch Gyngrhair eto’r tymor nesaf.
Gyda phethau’n agos iawn ar waelod y gynghrair mae’r fuddugoliaeth yn erbyn Chelsea wedi rhoi gobaith o’r newydd i Sunderland.
Fe fydd yn gêm enfawr i ddau o flaenwyr Caerdydd, Frazier Campbell Kenwyne Jones, wrth iddyn nhw herio eu hen glwb.