Byddai'r gemau'n cael eu cynnal yn Stadiwm y Mileniwm
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau heddiw eu bod wedi cyflwyno cais i gynnal rhai o gemau Ewro 2020 yng Nghaerdydd.
Cafodd Stadiwm y Mileniwm ei chynnig i fod yn un o’r 13 maes ble bydd gemau’r gystadleuaeth yn cael eu cynnal – gydag UEFA eisoes wedi mynegi awydd i fynd a’r twrnament i leoliadau newydd.
Fe benderfynodd UEFA y llynedd y byddai Pencampwriaeth Ewrop ymhen chwe blynedd yn cael ei chynnal ar draws nifer o wledydd, yn hytrach na’r ffurf bresennol ble mae un neu ddwy wlad yn cynnal y gystadleuaeth.
Ac fe fydd Stadiwm y Mileniwm – sydd yn stadiwm Categori 5 UEFA – yn ganolog i ymgais Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ddenu tair gêm grŵp ac unai gêm o rownd y 16 olaf neu’r wyth olaf i’r ddinas.
Erbyn hynny fe fydd cae lled-artiffisial wedi’i osod ar gae’r stadiwm, gyda’r gobaith y bydd hyn yn datrys safon wael ddiweddar y cae.
Mae’r cais i ddenu Ewro 2020 i Gymru eisoes wedi denu cefnogaeth Llywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd, meysydd awyr Caerdydd a Bryste – a seren fwyaf y tîm cenedlaethol, Gareth Bale.
Y gobaith hefyd yw y bydd cynnal rownd derfynol y Super Cup yng Nghaerdydd yn llwyddiannus ym mis Awst yn hwb ychwanegol i’r cais i ddenu’r Ewros.
“Trafnidiaeth a llety digonol”
Pwysleisiodd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford, y byddai cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus a llety digonol yn y ddinas i gynnal y gemau petai nhw’n dod.
“Bydd modd i ni gynnig pedwar maes awyr rhyngwladol [Caerdydd, Bryste, Birmingham a Llundain] o fewn dwy awr i Gaerdydd [erbyn 2020],” meddai Jonathan Ford.
Bydd pawb sydd â thicedi Ewro 2020 hefyd yn cael teithio am ddim ar fysus a threnau er mwyn cyrraedd Caerdydd, gyda Ford yn hawlio y bydd 41,000 o wlâu llety o fewn awr o gyrraedd i’r ddinas.
Dywedodd y byddai unrhyw elw sydd yn cael ei wneud o’r twrnament yng Nghymru hefyd yn cael ei fuddsoddi mewn pêl-droed ar lawr gwlad.
Ychwanegodd Gareth Bale y byddai’n fraint o’r mwyaf i gael chwarae mewn twrnament rhyngwladol yn ei ddinas enedigol.
“Gall hyn fod yn ddechrau cyfnod gwych i bêl-droed rhyngwladol Cymru,” meddai seren Real Madrid. “Dw i’n credu bod gennym ni gyfle da i gyrraedd Ewro 2016 yn Ffrainc.
“Byddai wedyn yn wych cael chwarae yn rowndiau terfynol Ewro 2020 yn fy ninas enedigol, Caerdydd.”