Rhys Hartley
Rhys Hartley sy’n gobeithio am ganlyniad da o fath arall ddydd Sul, ar ôl bod yn gwylio tair gêm mewn wythnos …
Dwi’n cofio Caerdydd yn chwarae yn Luton ar ddydd San Ffolant blynyddoedd yn ôl a’r floedd, ‘Ni ‘mond yma achos bo’ ni’n sengl!’ yn cael ei gweiddi am y tro cyntaf.
Cafodd y cefnogwyr eu gwobrwyo’r noson honno gyda gwledd o bêl-droed a gêm gyfartal 3-3 ar ôl bod ar ei hôl hi o ddwy gôl yn yr hanner cyntaf.
Henffordd
Bron i ddegawd yn ddiweddarach ac mae’n rhaid i mi ddiolch yn arw i fy nghariad ar benwythnos San Ffolant eleni. Daeth hi’r holl ffordd o Ben-y-Bont i aros ‘da fi yn Llundain a chytunodd hi i ddod i Luton er mwyn gwylio Henffordd y tro hwn.
Yn anffodus, doedd perfformiad y Teirw ddim werth ymdrech ni’r selogion, gan golli 7-0 yn erbyn tîm ucha’r Gynghrair. Ar ôl hanner cyntaf arbennig, roedd Henffordd yn anffodus i fod tu ôl o un gôl i ddim.
Fe gollon nhw eu hyder, eu siâp ac unrhyw obaith o gymryd unrhyw beth o’r gêm. Ar ôl gweld Henffordd yn colli o 3-0 yn Woking cwta bythefnos yn ôl doeddwn i ddim yn meddwl y gallai pethau fynd yn waeth. Yn amlwg, ro’n i’n anghywir.
Casnewydd
Honno oedd y gêm gyntaf o dair yr wythnos yma i mi. Es i nôl i dde Cymru ddechrau’r wythnos. Cyfle gwych i gyfarfod hen ffrindiau (sy’ hefyd wedi stopio gwylio Caerdydd) yng Nghasnewydd wrth iddyn nhw groesawu Rhydychen i Rodney Parade.
Bydd rhan fwyaf o bobl yn adnabod Rodney Parade fel maes y gêm bêl hirgron ac mae cyflwr y cae yn dweud y cwbl i unrhyw un oedd ddim yn gwybod bod ‘County’ yn rhannu stadiwm gyda Dreigiau Gwent.
Cyn nos Fawrth, cafodd chwe gêm gartref d’wetha Casnewydd eu gohirio oherwydd y tywydd ac roedd hi’n sioc o weld y dyfarnwr yn caniatáu i hwn fynd yn ei flaen.
Gyda’r bêl yn gwrthod bownsio ar y cae bresych, manteisiodd Casnewydd ar amddiffyn gwan Oxford gan ddod yn ôl o un gôl i lawr i ennill 3-2.
Wedi’r holl ohiriadau, mae hi wedi bod yn ddigon hawdd anghofio ail dîm y de-ddwyrain ond gyda thair gêm mewn llaw a dim ond chwe phwynt rhyngddynt a’r safleoedd ail gyfle, dymunwn bob llwyddiant i Gasnewydd yn eu tymor cyntaf yn ôl yn y Gynghrair.
Gobeithio y gallwn nhw wthio am ddyrchafiad. Ar ôl curo Oxford, un o’r ffefrynnau yn yr adran, mae’n fwy na jest breuddwyd.
… a Clapton
Felly nôl a fi i Lundain fore Mercher gyda phopeth wedi croesi, yn y gobaith y byddai cae Harringey Borough wedi sychu mas a bod gêm Greenhouse yn erbyn Clapton am fynd yn ei blaen.
Dwi heb fethu gêm Clapton ers i mi ddechrau eu dilyn ym mis Tachwedd. Yn anffodus, dim ond un gêm a gafwyd ers canol Rhagfyr. A doeddwn i ddim mewn lwc nos Fercher ychwaith.
O wel. Roedd Arsenal, fy nhîm lleol, yn chwarae Bayern ond doedd dim siawns cael gafael ar docyn, hyd yn oed taswn i wedi gallu fforddio un.
Felly Beckenham Town neu Croydon FC amdani. Penderfynom ni fynd i weld rownd gogynderfynol cwpan Kent yn Beckenham.
Does fawr o ddim i’w wneud, heb sôn am ei weld yn Beckenham. Un dafarn a hwnnw’n ‘Toby Carvery’ a rhyw sied o far yn y grownd ei hun.
Roedd hi’n gêm ddiflas ofnadwy. Roedd y ddyfarnwraig yn chwibanu lot rhy aml. Druan – fe welais i rywun yn gwisgo siaced swyddogol yn gwneud nodiadau – a doedd dim lot o gyfleoedd i’r un tîm.
Dwi’n deall nawr pam bod cyn lleied o bobl yn mynd i wylio Beckenham. Doedden ni wir ddim eisiau amser ychwanegol!
Y tîm cartref aeth â hi gyda gôl yn yr ail hanner ond doedd fawr ddim dathlu. Roedd hi’n brofiad anarferol iawn a dwi ddim yn siŵr ‘mod i eisiau dychwelyd.
Penwythnos Nice i Gymru?
Yn dilyn fy wythnos dair gêm, mae fy sylw yn troi at ddigwyddiadau oddi ar y cae, yn Nice ddydd Sul.
Fanno bydd grwpiau gemau rhagbrofol Pencampwriaeth Ewrop 2016 yn cael eu penderfynu, gan gychwyn dwy flynedd o obaith i ni ddilynwyr tîm cenedlaethol Cymru.
Ry’n ni wedi codi o bot chwech i bot pedwar y tro yma, felly bydd dau dîm gwaeth ‘na ni yn y grŵp – neu dyna fel mae hi i fod ta beth. Rhaid gobeithio am rai o’r timoedd llai o’r potiau uwch.
Wrth gwrs, byddwn ni’r cefnogwyr ffyddlon (neu dwp) yn gobeithio am dripiau deche yn ogystal â gemau y gallwn ni ennill.
Yn wir, byddaf i a chwpwl o fêts sy’n dilyn Cymru yn gwylio’r ‘draw’ yn Amsterdam. Ry’n ni wedi penderfynu ei drin fel esgus am daith ‘Awê’ Cymru arall.
Bosnia, Hwngari, Slofacia, CYMRU, Georgia a’r Faroes i fi plîs!