Llywelyn Williams
Wyddoch chi fod pedwaredd rownd Cwpan yr FA y penwythnos hwn? Na? Beth yw’r ots? Ai cyffrous yw’r teimlad, ynteu anhawster ychwanegol ydi o i’r cefnogwyr a’r clybiau mawr?

Lerpwl ac Everton – llygadu’r Gwpan?

Dyma ddau glwb sydd â hanes disglair yn y gwpan hon. Cafwyd gornest go gref ddwy flynedd yn ôl gyda’r ddau glwb yn mynd benben â’i gilydd yn Wembley yn y rownd gynderfynol.

Wrth gwrs, mae’r clybiau o Lannau Merswy hefyd benben â’i gilydd yn y ras am bedwerydd safle euraidd yr Uwch Gynghrair ar hyn o bryd, sydd yn ôl rhai yn fwy gwerthfawr nag ennill y Gwpan yn yr oes bresennol.

Dyma gyfle gorau Arsenal ers sbel i ennill tlws am y tro cyntaf ers degawd. Ond mae’n bosibl y gallen nhw ennill y gynghrair yn ogystal, heb anghofio am Gynghrair y Pencampwyr. Trebl i’r Gunners y flwyddyn hon? Posib, ond i fod yn realistig petaen nhw’n canolbwyntio ar flaenoriaethu un tlws y tymor gallen nhw dorri eu ‘hoodoo’, a’r gynghrair yw eu siawns mwyaf realistig.

Cwpan yn colli sbarc

Felly mae wedi dod i’r cwestiwn tyngedfennol hwn sydd wedi bod ar feddyliau pêl-droedwyr a chefnogwyr ers sbelan. A yw Cwpan yr FA wedi colli’i sbarc?

Yn bersonol does dim amheuaeth ei fod o, bron cymaint â chynghrair rygbi’r Pro12 (dyna i chi gynghrair eithriadol o ddiflas yw honno).

Rwy’n drist ryw ffordd ei fod wedi colli’i sbarc, oherwydd pan oeddwn yn blentyn yn tyfu fyny a blynyddoedd cyn hynny, roedd Cwpan yr FA yn ddigwyddiad enfawr. Roedd rhai fel John Aldridge yn dweud ei fod o’n bwysicach nag ennill y gynghrair hyd yn oed.

Mae lot fawr o ffactorau’n deillio o ddiffyg diddordeb yn y Gwpan. Mae Uwch Gynghrair Barclays wedi troi’n fwystfil enfawr na ellid ei reoli, ble mae’r arian mawr yn deillio a chybiau sy’n brwydro i oroesi yn gorfod blaenoriaethu’r gynghrair yn hytrach na’r Gwpan er mwyn elwa o’r arian a’r cyhoeddusrwydd byd-eang.

Yr ail ffactor wrth gwrs yw pwysigrwydd Ewrop i’r clybiau sy’n brwydro i fod yn y pedwar safle uchaf. Mae cyrraedd rowndiau terfynol Cynghrair y Pencampwyr dal yn uchelgais hir dymor i unrhyw glwb sydd eisiau llwyddiant ar lefel uwch eto.

A dim ond lle yng Nghynghrair Ewropa sydd i enillwyr yr FA, cystadleuaeth sydd ddim mor ‘glamourous‘ o’i chymharu â Chynghrair y Pencampwyr.

Cyfle i fechgyn ifanc ddangos eu gwerth?

Rydym wedi gweld yn ddiweddar fod nifer o glybiau wedi rhoi eu ‘hail dîm’ i chwarae yn erbyn gwrthwynebwyr eraill yn y Gwpan hon ers cwpl o flynyddoedd bellach. Siomedig gyda’r diffyg parch?

Ar yr un llaw ‘da chi’n tybio nad ydynt yn rhoi’r un flaenoriaeth gystadleuol fel y maent i’r gynghrair a siomedig ydi gweld nad ydynt wedi rhoi’u hymgais orau i ennill tlws.

Ond ar y llaw arall, mae’n rhoi cyfle i’r hogiau ifanc lleol wneud eu marc yn ogystal. Gall cyfraniad chwaraewyr ifancach lleol wneud fwy o argraff na rhoi chwaraewyr tîm cyntaf mewn cystadlaethau fel hyn, oherwydd eu bod yn ysu am wneud eu marc dros y tîm cyntaf ac yn llwyfan perffaith iddynt gamu ’mlaen i bêl-droed broffesiynol heb lawer o bwysau i ennill tri phwynt.

Ond beth sydd yn bwysig wrth gyflwyno bechgyn ifanc i’r tîm yw cael y balans rhwng y chwaraewyr ifanc a’r rhai profiadol, er mwyn creu ryw fath o sefydlogrwydd i’r tîm wrth gystadlu.

Dilema Abertawe a Chaerdydd

Pa fath o dîm fydd Abertawe a Chaerdydd yn dewis y penwythnos hwn? Deng mlynedd yn ôl buasai neb wedi dychmygu Caerdydd ac Abertawe yn gwrthod rhoi’u tîm gorau mewn cystadleuaeth o’r fath.

Mae’r Elyrch yn wynebu Birmingham oddi cartref. Gwrthwynebwyr anodd rwy’n tybio, clwb sydd wastad wedi bod ymysg y goreuon dro ar ôl tro boed ar y lefel uchaf neu is.

Yn anffodus mae Abertawe wedi wynebu llwyth o wrthwynebwyr cryf dros y gemau diwethaf ac wedi colli’r rhan fwyaf, a gyda Chwpan Ewropa ar y gweill hefyd tybed a oes gan Laudrup ormod ar ei blât gyda’r gêm hon? Efallai mai ceisio cael safle saff yn y gynghrair fydd nod yr Elyrch y tymor hwn, nid lle am Ewrop na thlws arall.

Mae Caerdydd yn wynebu Bolton oddi cartref, clwb arall sydd wedi bod yn llwyddiannus ar lefel uwch yn y gorffennol hefyd. Fe fydd Bolton yn gobeithio bachu buddugoliaeth o dan drwynau’r cochion yn enwedig wrth weld safle presennol Caerdydd yn y gynghrair ar hyn o bryd.

Ond gall anelu am lwyddiant yn y gwpan fod yn hwb ac yn ysbrydoliaeth i Solskjaer Chaerdydd er mwyn adennill tipyn o barch. Mae Solskjaer wedi bod yn llwyddiannus yn y gorffennol gan ennill cwpan cenedlaethol gyda’i hen glwb Molde yn Norwy, ac felly mae potensial gan Gaerdydd i efelychu hynny.

Rhagdybio’r canlyniadau

Felly dyma fy rhagdybiad o ganlyniadau’r penwythnos. Cofiwch amdanaf os enillwch chi fet ar fy sgorau cywir – fyddai’n haeddu hanner o’r arian!

Arsenal v Coventry – Arsenal

Nottingham Forest v Preston – Forest

Bournemouth v Lerpwl – Lerpwl

Sunderland v Kidderminster – Sunderland

Man City v Watford – City

Rochdale v Sheffield Wednesday – Rochdale

Birmingham v Abertawe – cyfartal

Port Vale v Brighton – Brighton

Huddesfield v Charlton – Huddersfield

Bolton v Caerdydd – Caerdydd

Southampton v Yeovil – Southampton

Wigan v Crystal Palace – cyfartal

Southend v Hull – cyfartal

Stevenage v Everton – Everton

Sheffield Utd v Fulham – Fulham

Chelsea v Stoke – Chelsea

I roi gwybod i Llywelyn os wnaethoch chi ennill arian diolch i’w bêl grisial, gallwch ei ddilyn ar Twitter ar @Llew5.