Abertawe 1–3 Tottenham

Colli gartref oedd hanes Abertawe brynhawn Sul wrth i Tottenham ymweld â’r Liberty yn yr Uwch Gynghrair.

Rhoddodd dwy gôl Emmanuel Adebayor a gôl i’w rwyd ei hun gan Chico Flores Tottenham ar y blaen yn gyfforddus cyn i Wilfred Bony dynnu un yn ôl i’r Elyrch.

Y tîm cartref a ddechreuodd y gêm orau a bu bron i Bony eu rhoi ar y blaen ond tarodd ei ergyd yn erbyn y trawst.

Spurs yn hytrach a agorodd y sgorio ddeg munud cyn yr egwyl pan beniodd Adebayor groesiad Christian Eriksen i gefn y rhwyd.

Felly yr arhosodd hi tan hanner amser ond roedd yr ymwelwyr ym mhellach ar y blaen yn gynnar yn yr ail gyfnod pan wyrodd Chico groesiad Kyle Walker i’w rwyd ei hun.

Ac roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel ugain munud o’r diwedd pan rwydodd Adebayor ei ail ef a thrydedd ei dîm.

Roedd foli Bony ychydig funudau’n ddiweddarach yn gôl daclus ond gôl gysur yn unig oedd hi.

Mae Abertawe yn llithro i’r pymthegfed safle yn y tabl, dri phwynt yn unig uwch ben Caerdydd sydd ar y gwaelod.

.

Abertawe

Tîm: Tremmel, Rangel, Davies, Britton, Chico, Williams, Pozuelo, Amat, Bony, Shelvey (Lamah 51′), Routledge

Gôl: Bony 78’

Cardiau Melyn: Amat 49’, Bony 68’

.

Tottenham

Tîm: Lloris, Walker, Rose, Dembélé, Dawson, Chiriches, Lennon (Naughton 79′), Bentaleb, Adebayor, Eriksen, Chadli (Sigurdsson 67′)

Gôl: Adebayor 35’, 71’, Chico [g.e.h.] 53’

Cerdyn Melyn: Rose 80’

.

Torf: 20,269