Mae cyn-redwr a fu’n dal record y byd dros 5,000m, wedi marw. Christopher Chataway oedd yr un a helpodd Roger Bannister i redeg milltir mewn llai na 4 munud yn 1954.

Bu farw fore heddiw yn Hospice St Ioan yng ngogledd-orllewin Llundain, ar ol bod yn diodde’ o ganser am dros ddwy flynedd.

Roedd wedi dal ati i gadw’n heini yn ei henoed, ac wrth gyhoeddi ei farwolaeth, fe ddywedodd ei fab, Mark Chataway, ei fod yn dal i fynd ar ei feic ymarfer tan yn ddiweddar iawn.