Gleision 13–19 Caerwysg

Mae dyfodol y Gleision yn Ewrop y tymor hwn yn ansicr o hyd ar ôl iddynt golli mewn gêm glos yn erbyn Caerwysg ar Barc yr Arfau brynhawn Sadwrn.

Roedd y rhanbarth o Gymru’n gwybod cyn y gêm hon nad oedd posib iddynt gyrraedd wyth olaf Cwpan Heineken ond does dim sicrwydd y byddant yn chwarae yn rownd go gynderfynol Cwpan Amlin ychwaith nawr yn dilyn y canlyniad hwn.

Roedd angen buddugoliaeth gyfforddus ar y Gleision i sicrhau eu lle yn rownd nesaf yr Amlin ond cawsant y dechrau gwaethaf posib wrth i sgarmes symudol Caerwysg wthio’r clo, Don Armand, drosodd am gais wedi dim ond pum munud.

Ychwanegodd maswr yr ymwelwyr, Gareth Steenson, y trosiad a dwy gic gosb hefyd wrth sefydlu mantais dda i’w dîm wedi pum munud ar hugain.

Daeth y Gleision yn ôl iddi tuag at ddiwedd yr hanner cyntaf, gyda chic gosb gan Leigh Halfpenny i ddechrau ac yna gyda chais Alex Cuthbert. Croesodd yr asgellwr yn dilyn gwaith da gan Halfpenny ac Ellis Jenkins ac roedd y Gleision o fewn tri phwynt yn dilyn y trosiad.

Roedd y Cymry yn gyfartal wedi chwarter awr o’r ail hanner yn dilyn cynnig llwyddiannus arall gan Halfpenny ond methodd yntau, a Gareth Davies, gyfleodd arall at y pyst.

A chafodd y Gleision eu cosbi wrth i Steenson drosi chwe phwynt arall i ennill y gêm i Gaerwysg.

Mae’r pwynt bonws serch hynny yn cadw gobeithion Ewropeaidd y Gleision yn fyw wrth iddynt orffen yn ail yng ngrŵp 2. Ond fe all Caeredin, Caerloyw, Harlequins a’r Scarlets eu hatal brynhawn Sul trwy orffen yn ail yn eu grwpiau hwy gyda mwy o bwyntiau na phedwar ar ddeg y Gleision.

.

Gleision

Cais: Alex Cuthbert 38’

Trosiad: Leigh Halfpenny 38’

Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 29’, 54’

.

Caerwysg

Cais: Don Armand 5’

Trosiad: Gareth Steenson 5’

Ciciau Cosb: Gareth Steenson 13’, 23’, 59’, 80’

Cerdyn Melyn: Dave Lewis 74’