Aberystwyth 3–3 Bangor

Tair gôl yr un oedd hi mewn gêm gyffrous rhwng Aberystwyth a Bangor o flaen camerâu Sgorio ar Goedlan y Parc brynhawn Sadwrn.

Aeth Aber ddwy gôl ar y blaen cyn i’r ymwelwyr daro’n ôl i unioni’r sgôr erbyn yr egwyl, ac er i’r tîm cartref fynd ar y blaen drachefn yn gynnar yn yr ail gyfnod fe achubodd y Dinasyddion bwynt gyda gôl Sion Edwards hanner ffordd trwy’r ail hanner.

Mae’r pwynt yn ddigon i sicrhau lle Bangor yn y chwech uchaf ond bydd rhaid i Aber aros tan yr wythnos nesaf i wybod eu tynged.

Hanner Cyntaf

Aberystwyth a ddechreuodd y gêm orau ac roeddynt yn llawn haeddu mynd ar y blaen gyda hanner foli droed chwith daclus Geoff Kellaway o ochr y cwrt cosbi wedi 13 munud.

Dyblodd Chris Venables y fantais bedwar munud yn ddiweddarach yn dilyn camgymeriad chwerthinllyd yn yr amddiffyn gan Fangor. Ciciodd Chris Robert y bêl yn syth i Venables yn y cwrt cosbi a chododd yntau hi dros Lee Idzi ac i gefn y rhwyd.

Prin yr oedd Bangor wedi bygwth yn y deunaw munud cyntaf ond roeddynt yn ôl yn y gêm pan grymanodd Sion Edwards gic gornel yn syth i’r gôl.

Y Dinasyddion a gafodd y cyfleoedd gorau wedi hynny a bu rhaid i gôl-geidwad Aber, Mike Lewis, fod yn effro i arbed cynnigion Les Davies a Declan Walker o du allan i’r cwrt.

Ond roedd Bangor yn gyfartal wedi ychydig dros hanner awr diolch i Davies. Disgynnodd y bêl yn garedig i’r Tanc yn y cwrt cosbi a cholbiodd yntau hi trwy goesau Lewis yn y gôl.

Cafodd Les gyfle gwych i ychwanegu trydedd cyn yr egwyl hefyd ond anelodd ei beniad rhydd yn syth at y golwr wrth i hanner cyntaf gwych orffen yn gyfartal.

Ail Hanner

Dechreuodd yr ail hanner yn debyg i’r cyntaf – gydag Aberystwyth ar dân. Roedd llai na munud wedi mynd pan rwydodd Vanables ei ail ef a thrydedd ei dîm yn dilyn croesiad gwych Craig Williams o’r chwith.

Bu bron i Williams ymestyn y fantais ei hunan wedi hynny ond gwyrodd ei gynnig fodfeddi heibio’r postyn, ac yr un oedd hanes peniad Venables o groesiad Cledan Davies hanner ffordd trwy’r hanner.

A chafodd Aber eu cosbi am fethu’r cyfleoedd hynny wrth i Edwards unioni’r sgôr yn y pen arall yn fuan wedyn gyda’i ail ef o’r gêm. Llwyddodd yr asgellwr i ganfod cefn y rhwyd gyda pheniad celfydd o gic rydd Walker.

Cafodd y ddau dîm gyfleoedd i’w hennill hi wedi hynny. Daeth y gorau o bosib Mark Jones ac Aberystwyth yn yr eiliadau olaf ond gwnaeth Idzi yn y gôl yn dda i arbed ei ergyd.

Pwynt yr un i’r ddau dîm felly ac mae hynny’n ddigon i sicrhau lle Bangor (sy’n aros yn bedwerydd) yn y chwech uchaf cyn y toriad. Mae Aber ar y llaw arall yn aros yn chweched ond bydd rhaid iddynt aros tan yr wythnos nesaf i wybod eu tynged.

Maent angen canlyniad gwell yn erbyn Caerfyrddin na chanlyniad y Rhyl yn erbyn Port Talbot, ond gall y Gymdeithas Bêl Droed gael eu dweud hefyd gan i Aberystwyth chwarae chwaraewr oedd i fod wedi’i wahardd mewn gêm dros gyfnod y Nadolig.

Ymateb

Rheolwr Aberystwyth, Ian Hughes:

“Aethon ni 2-0 i fyny ac yna 3-2 ar y blaen ac fe ddylem ni fod yn ennill y gemau hynny. Wedi dweud hynny, fe all y pwynt yma ein cael ni i’r chwech uchaf.”

“Mae ganddom ni gêm bwysig yr wythnos nesaf [yn erbyn Caerfyrddin] ac os ydan ni’n ei churo hi fe fyddwn ni yn y chwech uchaf.”

.

Aberystwyth

Tîm: Lewis, Corbisiero, S. Jones, Venables, M. Jones, Kellaway, Davies, Nalborski, Williams, Shaw, Thomas

Goliau: Kellaway 13’, Venables 17’, 46’

Cardiau Melyn: Lewis 19’, Kellaway 72’, Shaw 77’

.

Bangor

Tîm: Idzi, Allen, Culshaw (McDaid 57’), Davies, R. Edwards (C. Jones 90’), S. Edwards (G. Jones 90’), Johnston, Roberts, Petrie, Miley, Walker

Goliau: S. Edwards 19’, 69’ Davies 33’

Cardiau Melyn: Johnston 37’, S. Edwards 84’, Walker 87’, Allen 90’

.

Torf: 672