Man City 4–2 Caerdydd
Llithrodd Caerdydd i waelod Uwch Gynghrair Lloegr yn dilyn colled drom yn erbyn Man City yn Stadiwm Etihad brynhawn Sadwrn.
Er i’r Adar Gleision sgorio ddwywaith yn erbyn y tîm sy’n ail, doedd hynny ddim yn ddigon wrth i brif sgorwyr y gynghrair rwydo pedair mewn buddugoliaeth gyfforddus.
Aeth Man City ar y blaen yn gynnar gyda gôl ddadleuol. Edin Dzeko roddodd y bêl yn y rhwyd ond roedd awgrym fod David Silva wedi llawio wrth greu’r cyfle iddo.
Roedd Caerdydd yn gyfartal wedi llai na hanner awr diolch i ergyd Craig Noone i gornel isaf y rhwyd ond roedd y tîm cartref yn ôl ar y blaen eto cyn hanner amser yn dilyn ergyd daclus Jesús Navas.
Creodd Sergio Agüero y drydedd i Yaya Touré chwarter awr o’r diwedd cyn i Touré dalu’r gymwynas yn ôl i greu’r bedwaredd i’r Archentwr bedwar munud yn ddiweddarach.
Gôl gysur yn unig felly oedd ymdrech hwyr Fraizer Campbell wrth i Gaerdydd golli eu trydedd gêm gynghrair yn olynol.
Mae’r canlyniad hwn ynghyd â buddugoliaeth Crystal Palace yn erbyn Stoke yn golygu fod yr Adar Gleision yn gorffen y dydd ar waelod tabl yr Uwch Gynghrair.
.
Man City
Tîm: Hart, Zabaleta, Kolarov, Yaya Touré, Kompany, Demichelis, Jesús Navas (Clichy 82′), Javi García, Dzeko, Negredo (Agüero 62′), Silva (Milner 80′)
Goliau: Dzeko 14’, Jesús Navas 33’, Yaya Touré, Agüero
Cardiau Melyn: Negredo 18’, Kolorov 74’
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, Théophile-Catherine, McNaughton (John 68′), Medel, Caulker, Turner, Noone, Gunnarsson (Wolff Eikrem 78′), Campbell, Mutch, Whittingham (Bellamy 68′)
Goliau: Noone 29’, Campbell 90’
.
Torf: 47,213