Leinster 36–3 Gweilch

Cafodd y Gweilch noson i’w anghofio ar yr RDS wrth herio Leinster yn Nulyn nos Wener.

Daeth ymgyrch Ewropeaidd y rhanbarth o Gymru i ben gyda chanlyniad siomedig arall yng ngrŵp 1 Cwpan Heineken. Ac i rwbio halen yn y briw fe dderbyniodd clo’r Gweilch a Chymru, Ian Evans, gerdyn coch am sathru ar wrthwynebwr.

Cyfnewidiodd Dan Biggar a Jimmy Gopperth giciau cosb yn y chwarter awr cyntaf cyn i drobwynt y gêm gyrraedd hanner ffordd trwy’r hanner.

Dyna pryd y cafodd Evans ei anfon o’r cae am sathru ar Mike McCarthy a doedd dim gobaith i’r pedwar dyn ar ddeg oddi cartref yn erbyn yr ail dîm mwyaf llwyddiannus yn hanes y gystadleuaeth.

Cafwyd dau gais cyn yr egwyl, y cyntaf yn gais cosb a’r ail i’r prop, Cian Healey, ddau funud cyn hanner amser.

Fe lwyddodd y Gweilch i atal y llif am ugain munud cyntaf yr ail hanner ond dyfarnwyd ail gais cosb i’r Gwyddelod toc wedi’r awr wrth i bac yr ymwelwyr fethu ag ymdopi.

Daeth coesau ffres oddi ar y fainc i ychwanegu at sgôr Leinster yn y deg munud olaf gyda’r blaenasgellwr, Jordi Murphy, yn sicrhau pwynt bonws cyn i’r mewnwr, Isaac Boss, ychwanegu pumed cais.

Llwyddodd Gopperth gyda phedwar allan o bum trosiad wrth orffen y gêm gydag un pwynt ar ddeg.

Mae’r Gweilch yn gorffen ar waelod tabl grŵp 1 gydag un fuddugoliaeth mewn chwe gêm. A bydd rhaid i’r Gweilch a Chymru aros i weld os fydd cosb bellach i Evans am ei drosedd ar yr RDS.

.

Leinster

Ceisiau: Cais Cosb 34’, 63′, Cian Healy 38’, Jordi Murphy 73’, Isaac Boss 76’

Trosiadau: Jimmy Gopperth 34’, 38’, 63’, 73’

Cic Gosb: Jimmy Gopperth 9’

.

Gweilch

Cic Gosb: Dan Biggar 13’

Cerdyn Coch: Ian Evans 20’