Bydd Gleision Caerdydd yn croesawu’r Exeter Chiefs i Barc yr Arfau brynhawn yfory mewn gêm sy’n rhaid ei hennill.

Byddai buddugoliaeth yn sicrhau lle iddyn nhw yn wyth olaf y Cwpan Heineken.  Mae rheolwr y Gleision, Phil Davies wedi penodi’r prop Sam Hobbs yn gapten am y gêm gan bod y prop rhyngwladol Gethin Jenkins yn colli’r gêm oherwydd anaf.

‘‘Yr ydym mewn safle da ar ôl pum gêm galed yn rowndiau’r grŵp ac mae’n rhaid canmol ymdrech y bechgyn.  Dim ond perfformiad cryf iawn yn erbyn Caerwysg fydd yn ddigon da i sicrhau lle yn y cwarteri.  Mae’r Exeter Chiefs yn dîm trefnus ac mae’r garfan dalentog wedi bod gyda’i gilydd am amser hir.  Bydd Rob Baxter yn sicrhau y byddant yn gorffen yn gryf,’’ meddai Davies.

‘‘Yr ydym mewn safle da ac yn falch bod gêm gyda ni ar Barc yr Arfau a hynny o flaen torf fawr gobeithio,’’ ychwanegodd Davies.

Bydd cyn gapten tîm Rygbi Cymru dan 20 oed Ellis Jenkins yn dechrau fel blaenasgellwr.  Mae’r bachwr Kristian Dacey wedi gwella o’i anaf ac yn dechrau’r gêm, ddyddiau yn unig ar ôl arwyddo cytundeb tymor hir gyda’r Gleision.  Daw Dafydd Hewitt i fewn i’r tîm yn lle Richard Smith yn y canol gyda Gavin Evans.

Tîm y Gleision

Olwyr – Leigh Halfpenny, Alex Cuthbert, Gavin Evans, Dafydd Hewitt, Chris Czekaj, Gareth Davies a Lloyd Williams.

Blaenwyr – Sam Hobbs (Capten), Kristian Dacey, Benoit Bourrust, Chris Dicomidis, Filo Paulo, Macauley Cook, Ellis Jenkins a Robin Copeland.

Eilyddion – Marc Breeze, Thomas Davies, Scott Andrews, James Down, Rory Watts-Jones, Lewis Jones, Dan Fish a Richard Smith.