Bydd y Scarlets yn chwarae yn erbyn yr Harlecwiniaid ar Barc y Scarlets am dri o’r gloch ddydd Sul yn rownd olaf grwpiau’r Cwpan Heineken.

Ar ôl curo Racing Metro nos Wener ddiwethaf byddant yn edrych ar gêm ddydd Sul fel cyfle i orffen yn gryf yn y gystadleuaeth.  Yn ystod rownd agoriadol y gystadleuaeth fe wnaeth y Scarlets faeddu’r Harlecwiniaid 33-26.  Byddai buddugoliaeth ddydd Sul yn sicrhau bod y Scarlets yn gorffen yn yr ail safle yng ngrŵp pedwar ac efallai yn cael y cyfle i chwarae yng nghystadleuaeth y Cwpan Amlin.

‘‘Yr ydym wedi rhoi cyfle i ni ein hunain gyrraedd y cwarteri, byddem wedi hoffi aros yn y gystadleuaeth ond mae ymdrech y bechgyn yn erbyn Racing Metro wedi rhoi gobaith i ni yng nghystadleuaeth y Cwpan Amlin.  Fe wnaethom chwarae yn dda yn erbyn yr Halequins ar y Stoop.  Fe wnaethom ymosod ac amddiffyn yn dda.  Mae’r Quinsy n un o dimau ymosodol gorau Ewrop,’’ meddai Easterby, rheolwr y Scarlets.

‘‘Nid ydym wedi ennill gêm gartref yn y Cwpan Heineken ers peth amser ac mae’n bwysig ein bod yn cael pethau yn iawn y penwythnos hwn,’’ ychwanegodd Easterby.

Bydd Gareth Maule yn dod fewn i’r tîm fel partner i Scott Williams yn y canol gan fod Nic Reynolds wedi ei anafu.  Mae’r asgellwr ifanc Jordan Williams yn cymryd lle Frazier Climo ar yr asgell.  Daw Phil john i’r tîm fel prop pen-rhydd a bydd George Earle yn dychwelyd i’r ail reng yn gwmni i Jake Ball.

Tîm y Scarlets

Olwyr – Aled Thomas, Kristian Phillips, Gareth Maule, Scott Williams, Jordan Williams, Rhys Priestland a Gareth Davies.

Blaenwyr – Phil John, Emyr Phillips, Samson Lee, George Earle, Jake Ball, Aaron Shingler, John Barclay a Rob McCusker (Capten).

Eilyddion – Ken Owens, Rob Evans, Jacobie Adriaanse, Johan Snyman, Josh Turnbull, Rhodri Williams, Adam Warren a Gareth Owen