Ar hyn o bryd mae Abertawe yn 13eg yn yr Uwch Gynghrair. Ond gyda’r tîm heb ennill mewn saith gêm mae rhai o’r cefnogwyr yn dechrau poeni am y sefyllfa.
Nid yw nifer y chwaraewyr sydd wedi dioddef anafiadau na’r gemau ychwanegol yng nghystadleuaeth Ewropa wedi helpu pethau. Fel nifer o dîmau maent wedi ei chael yn anodd i chwarae ar ddydd Iau a dydd Sul.
Bydd Michael Laudrup yn gobeithio y bydd ei dîm wedi llwyddo i gael rhai pwyntiau yn y gynghrair cyn y bydd Napoli yn dod i’r Liberty ymhen y mis.
Bydd her anodd yn gwynebu yr Elyrch dydd Sul gan fod Tottenham ar rediad da ar y funud. Ers i Tim Sherwood gael ei apwyntio yn reolwr mae nhw wedi llwyddo i gael 13 o bwyntiau o’r 15 oedd ar gael.
Fe allai’r gôl geidwad Michael Vorm, y blaenwr Roland Lamah a’r amddiffynnwr Dwight Tiendalli ynghyd a’r asgellwyr Pablo Hernandez a Nathan Dywe ddychwelyd i garfan yr Elyrch ar ôl anafiadau. Byddai hynny yn rhoi dipyn o gysur i Laudrup.