Iolo Cheung
Mae’n ganol mis Ionawr bellach, ac yn y byd addysg mae hynny’n golygu arholiadau lu i ddisgyblion a myfyrwyr, ac arolygon i ysgolion (wel, yn Pobol y Cwm beth bynnag).
Ac mae’n fis pwysig i bawb yn y byd pêl-droed hefyd gyda’r ffenest drosglwyddo ar agor a chlybiau’n edrych am arwr prin i achub eu tymor – am grocbris yn fwy aml na pheidio.
Amser am adroddiad hanner tymor i glybiau Cymry felly – pwy sy’n cael seren aur, a phwy sydd â lle i wella?
Alan Alarch, Ysgol Abertawe
Tymor gweddol hyd yn hyn – rydyn ni i gyd yn gwybod am allu’r hen Alan, yn enwedig ar ôl ennill gwobrau’r llynedd. Ond nid yw safon y gwaith wedi bod cystal ers fis Medi, ac mae gormod o absenoldebau wedi cael effaith ar y perfformiad.
Da yw gweld fod y clwb, fodd bynnag, wedi manteisio ar gyfleoedd all-gwriciwlar gyda thripiau tramor llwyddiannus, ac yn cryfhau’r CV ar yr un pryd.
Rhaid sicrhau, fodd bynnag, nad yw’r profiadau hynny ar draul y perfformiad o ddydd i ddydd yn y dosbarth.
Lle i wella felly rhwng nawr a diwedd y tymor. Nid yw’r marciau cystal â’r llynedd, ond dylai basio’r arholiadau ddiwedd tymor heb ormod o drafferth.
Gradd: B-
Gordon Gleision, Ysgol Caerdydd
Mae Gordon wedi ymgymryd â’r her o godi i’r set uchaf, ac yn sicr wedi dangos digon o ddawn i gyflawni ar y lefel hwn.
Fodd bynnag, angen taclo’r anghysondeb yn y gwaith – rhai darnau penigamp wedi’u cyflawni, ond wedi siomi wrth gyflwyno gwaith sâl mewn aseiniadau hawdd hefyd.
Y tu allan i’r dosbarth mae hefyd yn amlwg fod trafferthion yn y cartref yn cael effaith fawr ar allu Gordon i gyflawni’i botensial – mae angen sefydlogrwydd.
Peryg iawn y bydd yn methu’r arholiadau diwedd tymor os nad yw’r athro newydd o Scandinafia yn llwyddo i droi cornel.
Gradd: B
Al Tudion, Ysgol Casnewydd
Wedi codi o’r set gwaelod i set dau y tymor hwn ac yn edrych yn hollol gyfforddus, gan ddelio gyda’r gwaith mwy heriol heb ormod o drafferth.
Agos i frig y dosbarth ar hyn o bryd, mawr syndod i lawer, ac o dan arweiniad y tiwtor Caeredin maen nhw’n gwneud cynnydd da.
Y clwb yn amlwg wedi gwneud eu gwaith cartref dros yr haf, a gwneud y newidiadau cywir er mwyn delio gyda’r lefel uwch.
Gradd: A
Cai Ras, Ysgol Wrecsam
Ar ôl ymdrech dda iawn llynedd, gyda’r clwb yn ennill gwobr a dod yn agos iawn i’r brig ym mhrawf ola’r tymor, siomedig yw gweld nad yw Wrecsam wedi gwneud cynnydd eleni.
Mae perfformiadau’r profion wedi bod yn salw iawn hyd yn hyn, ac nid ydynt ymysg rhai ucha’r dosbarth fel y disgwylir iddyn nhw fod.
Serch hynny, da gweld bod y sefyllfa ariannol gartref wedi gwella – gallwn ond gobeithio y bydd rhywfaint o hyn yn mynd tuag at brynu adnoddau ychwanegol er mwyn gwella safon y gwaith.
Ond mae angen gwelliant sylweddol cyn yr haf – neu fe fydd cwestiynau’n codi dros eu tiwtor Mr. Morrell.
Gradd: C-
Am fwy o ‘puns’ gwael gallwch ddilyn Iolo ar Twitter ar @iolocheung.