Iolo Cheung
Blogiwr pêl-droed golwg360 Iolo Cheung sydd yn dewis ei uchafbwyntiau o’r flwyddyn a fu …

Mae blwyddyn arall o bêl-droed yn ymlwybro tua’i derfyn, ac rydan ni ar y Pod Pêl-droed eisoes wedi trafod rhai o uchafbwyntiau 2013.

Ond wrth gwrs, ni fyddai’n ddiwedd blwyddyn heb ychydig o wobrau chwaith – felly dwi ‘di pigo rhai o’r unigolion, timau a digwyddiadau dros y flwyddyn diwethaf sydd yn haeddu cydnabyddiaeth arbennig.

Tîm y Flwyddyn: Abertawe

Ennill Cwpan Capital One, sefydlu’i hunain fel clwb yn yr Uwch Gynghrair, a llwyddo i ddod drwy eu grŵp yn yr ymgyrch Ewropeaidd i ddilyn – gan wneud elw sylweddol fel clwb yn y cyfamser. Caerdydd a Chasnewydd wedi profi llwyddiant hefyd, ond ar ôl gwario’n sylweddol – felly camp Abertawe’n fwy nodedig.

Chwaraewr y flwyddyn: Aaron Ramsey

Nid oherwydd ei allu pur – Gareth Bale heb os fyddai’r seren hwnnw – ond oherwydd y gwelliant aruthrol ganddo i Arsenal dros y flwyddyn diwethaf. Rydan ni’r Cymry wedi gwybod pa mor dda ydi o ers sbel, ond mae wedi gwneud i lawer o gefnogwyr a ‘pyndits’ Saesneg lyncu’u geiriau yn 2013.

Chwaraewr ifanc y flwyddyn: Jonny Williams

Am ei berfformiadau rhyngwladol y mae’n ennill hon – daeth oddi ar y fainc am ei gêm ryngwladol gyntaf i ffwrdd yn yr Alban, ar hanner amser yn lle Bale, a rhedeg y sioe, cyn rhoi perfformiad gwych arall yn erbyn Croatia. Mae Ben Davies wedi bod yn llawer mwy cyson i’w glwb, ond mae Joniesta yn seren ddisglair iawn.

Chwaraewr ifanc ifanc y flwyddyn: Harry Wilson

Torri’r record am y chwaraewr ifancaf i ymddangos i Gymru, pan ddaeth i’r maes yn erbyn Gwlad Belg yn 16 mlwydd a 206 diwrnod oed. Oedd o’n haeddu’r cap ar y pryd? Nagoedd siŵr – ond doedd ei daid ddim yn cwyno!

Stori dylwyth teg y flwyddyn: Prestatyn

Da iawn i Bala am ddod o fewn trwch blewyn i guro Levadia Tallinn yn eu hymgyrch gyntaf erioed yn Ewrop. Ond mae’n rhaid cymeradwyo Prestatyn am ennill eu gêm gyntaf hwythau yng Nghynghrair Ewropa, ar giciau o’r smotyn yn erbyn Liepajas Metalurgs o Latfia, ac mai nid TNS yn unig sydd yn medru ennill yn Ewrop!

Opera sebon y flwyddyn: Caerdydd

Does dim byd yn syml lawr yn Stadiwm Dinas Caerdydd – dylai’r flwyddyn hon fod yn un i gael ei drysori gan bob cefnogwr, am ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair o’r diwedd. Ond rhag i bobl fynd yn rhy gyfforddus, mae’r perchennog Vincent Tan wedi bod yn ysgwyd y ddysgl yn ddigon rheolaidd i gadw pobl yn siarad/ffraeo/tynnu’i gwallt allan, gan gynnwys y ffwdan diweddaraf.

‘Comeback’ y flwyddyn: Bae Colwyn

Naw pwynt oddi wrth fod yn saff yng Nghynghrair y Conference North ym mis Ebrill, fe aethon nhw ar rediad o chwe buddugoliaeth yn olynol – mewn 15 diwrnod – i aros i fyny. Llwyddiant syfrdanol i’r tîm a’r rheolwr-chwaraewr Frank Sinclair – ie, hwnnw odd yn sgorio ‘own-goals’ i Gaerlŷr s’lawer dydd!

Prosiect hir dymor: Wrecsam

Do fe wnaethon nhw ennill Tlws FA Lloegr, ond doedd hynny ddim yn gysur wrth iddyn nhw golli i Gasnewydd yn ffeinal y gemau ail gyfle i ennill dyrchafiad i Gynghrair Dau. Ond mae’r clwb bellach wedi clirio’u dyled, ac ar ôl colli ‘fform’ wrth fynd i mewn i’r gemau ail gyfle ers nifer o dymhorau, mae gan Morrell gynllun cyfrwys (gobeithio) – gwneud yn wael nawr, a gwella yn y flwyddyn newydd!

Moment hurt y flwyddyn: ‘Ballboy-gate’

Gydag Abertawe yn ennill 2-0 ac o fewn munudau i gyrraedd ffeinal Cwpan Capital One, fe gawson ni un o’r digwyddiadau bisâr ‘na mewn gêm bêl-droed – ball-boy Abertawe Charlie Morgan (mab un o’r cyfarwyddwyr) yn gorwedd ar y bêl i atal ymosodwr Chelsea Eden Hazard rhag chwarae ymlaen. Hazard yn cicio, cerdyn goch yn dod allan, a Charlie bach yn cael stori i ddweud wrth ei ffrindiau yn yr ysgol y diwrnod wedyn.

Pwdfa’r flwyddyn: Nathan Dyer

Gyda gweddill ei gyd-chwaraewyr yn dathlu ennill Cwpan Capital One, beth oedd Dyer wrthi’n gwneud? Cwyno nad oedd o wedi cael cymryd cic o’r smotyn ar gyfer ei hat-tric.

Llun y flwyddyn:


Allwch chi enwi’r chwe llanc ifanc? Na, doeddwn i ddim yn medru chwaith – rhai o’r enwau anghyfarwydd gafodd eu galw i garfan Cymru ar gyfer y ddwy gêm ym mis Hydref yn erbyn Macedonia a Gwlad Belg (er gwybodaeth, o’r chwith i’r dde: Declan John, Lloyd Isgrove, Danny Alfei, James Wilson, Harry Wilson a Rhoys Wiggins ydyn nhw).

Hen ben y flwyddyn: Craig Bellamy

Na, ‘di o ddim ‘di chwarae dros 1000 o gemau yn ei yrfa, dio dal ddim yn chwarae pan mae’n 40, a dydi o ddim yn ei 23fed tymor fel chwaraewr ar y lefel uchaf – ond mae gan Craig Bellamy (78) tipyn yn fwy o gapiau dros Gymru na Ryan Giggs (64), ac wedi dangos mwy o ymroddiad nac unrhyw un dros y blynyddoedd. Bydd colled mawr ar ôl ei ymddeoliad.

Ydych chi’n cytuno gyda’r dewisiadau? Pwy ydych chi’n credu oedd yn haeddu clod yn 2013?