James Collins
Mae James Collins, ynghyd â chwaraewr ifanc Lerpwl Harry Wilson wedi ymuno â charfan Cymru wrth iddyn nhw baratoi i herio Macedonia nos Wener.

Mae Collins yn ôl yn y garfan yn dilyn trafodaethau gyda’r rheolwr Chris Coleman heddiw.

Doedd Collins ddim yn y garfan wreiddiol wedi ffrae rhwng ef a Coleman, ar ôl i Coleman honni fod Collins wedi gwrthod ymuno â’r garfan fel chwaraewr wrth gefn y tro diwethaf.

Yn dilyn llu o anafiadau i’r garfan i wynebu Macedonia a Gwlad Belg, roedd Coleman yn awyddus i gryfhau’r amddiffyn cyn nos Wener.

Cadarnhaodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar eu gwefan fod Collins wedi ymarfer gyda’r tîm brynhawn yma a’i fod bellach ar gael ar gyfer y ddwy gêm.

Opsiynau’n brin

Dywedodd Coleman yn y gynhadledd i’r wasg pan gyhoeddwyd y tîm fod y drws yn dal ar agor i Collins, ond i’r amddiffynnwr gysylltu ag ef am gyfarfod wyneb-yn-wyneb.

Ac fe gadarnhaodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar eu gwefan fod Collins wedi ffonio Coleman neithiwr, a bod y ddau wedi cwrdd yng Nghaerdydd brynhawn ‘ma i setlo’r mater.

Cyn i Collins ymuno, dim ond un amddiffynnwr canol, James Wilson o Fryste, oedd yn y garfan ag yntau heb gael cap llawn dros Gymru eto.

Mae Chris Gunter, y cefnwr de sydd wedi chwarae yng nghanol yr amddiffyn i Gymru yn y gorffennol, a’r chwaraewr canol cae Owain Tudur Jones, hefyd yn opsiynau.

Cyhoeddwyd y prynhawn yma hefyd fod y cefnwr ifanc 16 oed Harry Wilson o Lerpwl hefyd wedi ymuno â’r garfan.

Anafiadau

Mae’r amddiffynwyr Ashley Williams, Ben Davies, Adam Matthews a Sam Ricketts eisoes wedi tynnu allan o’r garfan gydag anafiadau.

Mae’r rhestr anafiadau hefyd yn cynnwys Gareth Bale, Joe Allen, Joe Ledley, Jack Collison a Jonathan Williams.

Cafwyd cadarnhad hefyd fod Aaron Ramsey a Sam Vokes wedi methu’r ymarfer heddiw, gyda’r ddau yn dal i ddioddef sgil-effaith anafiadau, ond mae’r ddau’n dal i obeithio bod yn rhan o’r tîm nos Wener.

Nos Wener fydd hefyd gêm gartref olaf Craig Bellamy, wedi iddo gadarnhau ddoe ei fod am ymddeol o bêl-droed rhyngwladol wedi’r wythnos hon.