Alan Wellsh gyda'r baton tu allan i Balas Buckingham
Mae baton Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014 wedi dechrau ar ei daith o amgylch y byd.
I ddwylo’r rhedwr sbrint Alan Wells, sydd wedi ennaill pedair medal aur yng Ngemau’r Gymanwlad, aeth y baton gyntaf wedi i’r daith 120,000 o filltiroedd gael ei lansio gan y Frenhines ym Mhalas Buckingham heddiw.
Bydd y baton yn teithio ar hyd gwledydd y gymanwlad cyn cyrraedd yn ôl i’r Alban erbyn mis Mehefin y flwyddyn nesaf ar gyfer y seremoni agoriadol.
Chris Hoy, y seiclwr, fu’n cludo’r baton i Balas Buckingham. Fe roddodd y Frenhines neges i’r athletwyr yn y baton, ond ni fydd yn cael ei ddatgelu nes y seremoni ar Fehefin 23, 2014.
Dywedodd cadeirydd y gemau, yr Arglwydd Smith o Kelvin, Glasgow wrth y dyrfa y tu allan i’r Palas: “Mae paratoi at y gemau wedi cymryd blynyddoedd o gynllunio ac rydym bellach wedi cyrraedd y foment lle mae pethau’n dechrau dod yn agosach.
“Bydd teimlad o gyfeillgarwch wrth i’r baton newid dwylo a fydd yn adlewyrchu’r croeso y bydd athletwyr y wladwriaeth yn ei gael yn Glasgow.”