Mae arolwg gan Chwaraeon Cymru wedi datgelu fod cynnydd o bron i 50% yn nifer y plant yng Nghymru sydd yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn gweithgareddau chwaraeon.

Ar ôl cynnal arolwg gyda 110,000 o blant Cymru o fil o ysgolion ledled y wlad fe ddarganfuwyd fod 40% yn cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy’r wythnos erbyn hyn, o’i gymharu â 27% yn 2011.

Mae 91% yn mwynhau chwaraeon ysgol a bechgyn (44%) yn fwy tebygol o gymryd rhan na merched (36%).

‘Heriau o’n blaenau’

Yr  arolwg yw’r mwyaf o’i fath yn ymwneud a phobl ifanc Prydain, a chredir mai hwn yw’r arolwg mwyaf o’i fath yn y byd.

Wrth gyflwyno canlyniadau’r arolwg, dywedodd Cadeirydd Chwaraeon Cymru, yr Athro Laura McAllister: “Mae’r ffigurau rhagorol hyn yn dangos beth sy’n bosib pan mae’r sectorau chwaraeon ac addysg yn cydweithio.

“Maent hefyd yn ein helpu ni i ddeall sut mae annog cenhedlaeth yfory i gymryd rhan mewn mwy o chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

“Ond mae heriau o’n blaenau o hyd ac mae’n rhaid i ni adeiladu ar y llwyddiant rydyn ni’n ei greu’n unigryw yng Nghymru.”

Dywedodd Sarah Powell, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru, bod yr arolwg yn pwysleisio sut mae ymdrechion Chwaraeon Cymru i wella chwaraeon a gweithgarwch corfforol wedi gwneud gwahaniaeth:    “Bydd y berthynas gadarnhaol rydyn ni wedi’i meithrin gyda’r byd addysg yn hanfodol er mwyn adeiladu ar ffigurau heddiw a’u gwella.”