Crawley 2–3 Casnewydd

Mae Casnewydd yn ail rownd Tlws y Gynghrair ar ôl dod yn ôl yn erbyn deg dyn Crawley i ennill o dair gôl i ddwy yn Stadiwm Broadfield nos Fawrth.

Roedd y tîm cartref ar y blaen o ddwy gôl hanner ffordd trwy hanner agoriadol y gêm rownd gyntaf ond fe darodd y Cymry’n ôl gan rwydo tair i ennill y gêm.

Rhwydodd Emile Sinclair gyntaf Crawley wedi deuddeg munud cyn i Michael Jones ddyblu’r fantais gyda gôl syfrdanol o’r llinell hanner.

Rhoddwyd llygedyn o obaith i dîm Justin Edinburgh ddau funud cyn yr egwyl pan rwydodd Chris Zebroski a throdd y llygedyn hwnnw’ rhywbeth mwy ddau funud wedi hanner amser pan yr anfonwyd James Hurst odd ar y cae ar ôl ildio cic o’r smotyn.

Unionodd Adam Chapman y sgôr o’r smotyn ac aeth Casnewydd ar y blaen am y tro cyntaf toc wedi’r awr pan wyrodd Connor Essam y bêl i’w rwyd ei hun.

Ac felly yr arhosodd hi tan y diwedd wrth i Gasnewydd gofnodi buddugoliaeth a oedd wedi ymddangos yn anhebygol iawn awr ynghynt.

.

Crawley

Tîm: Jones, Hurst, Connolly, Essam, Sadler, Adams, Simpson, Jones (Alexander 68’), Torres (Bulman 63’), Proctor, Sinclair (Drury 63’)

Goliau: Sinclair 13’, Jones 23’

Cerdyn Coch: Hurst 47’

.

Casnewydd

Tîm: Stephens, Jackson, Yakubu (Chapman 15’), James, Hughes, Minshull, Naylor, Flynn (Pipe 84’), Willmott (Washington 87’), Crow, Zebroski

Goliau: Zebroski 43’, Chapman 48’, Essam [g.e.h.] 61’,

Cerdyn Melyn: Stephens 82’